Syr Deian Hopkin yn Llywydd newydd y Llyfrgell Genedlaethol

  • Cyhoeddwyd
Syr Deian HopkinFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Syr Deian Hopkin yw Llywydd newydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Syr Deian Hopkin fydd Llywydd newydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae'n olynu Yr Arglwydd Dafydd Wigley o Gaernarfon a wnaeth ymddeol o'r swydd ym mis Rhagfyr.

Huw Lewis, Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth Cymru, wnaeth y cyhoeddiad fore dydd Iau.

Bydd Syr Deian yn dechrau yn y swydd ar Ragfyr 1 2011 am bedair blynedd.

Roedd Syr Deian, a anwyd yn Llanelli, yn Is-Ganghellor a Phrif Weithredwr Prifysgol South Bank yn Llundain hyd ei ymddeoliad yn 2009.

Treuliodd 42 o flynyddoedd ym maes addysg uwch.

"Mae cyfrannu at waith hollbwysig y Llyfrgell Genedlaethol fel ei Llywydd yn anrhydedd enfawr, gan mai hwn yw un o'n sefydliadau pwysicaf," meddai.

Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at ymuno â'i gyd-ymddiriedolwyr ac â staff i sicrhau bod y Llyfrgell yn parhau i fynd o nerth i nerth.

Dyfodol digidol

"Rwy'n ddefnyddiwr brwd o'r Llyfrgell ers blynyddoedd lawer ac rwyf wedi bod yn aelod o'i Chyngor, felly rwy'n ymwybodol iawn o'i rôl hollbwysig o fewn bywyd diwylliannol a deallusol Cymru.

"Rwy'n gyffrous iawn ynghylch y datblygiadau posibl yn y dyfodol â'r byd digidol gan y gall pobl Cymru a gweddill y byd elwa cymaint arnynt.

"Edrychaf ymlaen yn fawr at arwain y Llyfrgell dros y blynyddoedd nesaf".

Dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, ei fod yn falch iawn o benodi Syr Deian i'r swydd.

"Bydd yn cyfrannu profiad helaeth i'r swydd, sy'n amrywio o aelodaeth o Lys a Chyngor y Llyfrgell Genedlaethol i arwain sefydliad addysgol sylweddol.

"Rwy'n hyderus y bydd ei sgiliau a'i brofiad yn amhrisiadwy wrth i waith hollbwysig un o'n sefydliadau cenedlaethol barhau i ddatblygu."

Ac fe ddywedodd Andrew Green, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, bod y staff yn falch iawn o glywed y newyddion.

"Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio'n agos ag ef wrth iddo arwain y Llyfrgell i'r dyfodol a hybu ei gwasanaethau, er lles Cymru a'i phobl."

Derbyniodd Syr Deian ei addysg yn Ysgol Gymraeg Dewi Sant Llanelli a Choleg Llanymddyfri.

Enillodd radd mewn Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth a bu'n addysgu yno am 24 o flynyddoedd gan gynnwys cael ei benodi yn Bennaeth yr Adran Addysgu yn ystod y cyfnod hwnnw.

Cafodd Syr Deian ei benodi'n Llywydd ar ôl i'r Arglwydd Wigley o Gaernarfon benderfynu peidio â cheisio cael ei ailbenodi am ail dymor.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol