Llundain 2012: Fflam Olympaidd i deithio i gopa'r Wyddfa
- Cyhoeddwyd
Bydd y ffagl Olympaidd yn teithio ar hyd y rheilffordd i gopa'r Wyddfa, sef man uchaf taith gyfnewid fflam Olympaidd 2012.
Addawyd y bydd dros 80 o drefi, pentrefi a dinasoedd ar hyd a lled Cymru'n cael cipolwg ar y ffagl y flwyddyn nesa'.
Bydd yn cyrraedd Trefynwy ar 25 Mai, yna'n teithio trwy dde a gorllewin Cymru, i Fae Aberteifi ac ar draws gogledd Cymru, gan adael Y Trallwng ar 30 Mai.
Bydd y ffagl yn teithio ar gwch ar hyd traphont ddŵr Pontcysyllte ger Wrecsam, ac ar gefn un o geffylau cob Ceredigion yn Aberaeron.
Mae manylion llawn am daith gyfnewid y ffagl wedi'u cadarnhau gan Locog, y pwyllgor sy'n trefnu gemau Llundain 2012.
Ar ôl cychwyn o Land's End ar Ddydd Sadwrn 19 Mai 2012, bydd y ffagl Olympaidd yn croesi'r ffin i Gymru ar ddydd Gwener 25 Mai, pan fydd y daith gyfnewid yn cyrraedd Trefynwy o'r Rhosan ar Wy.
O amgylch y genedl
Fel y cyhoeddwyd ym mis Mai, bydd y ffagl yn aros dros nos yng Nghaerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor, cyn iddi gael ei chludo ar draws gogledd Cymru a threulio'r noson yng Nghaer ar ddydd Mawrth 29 Mai.
Yna bydd y daith yn dychwelyd i Gymru ar ddydd Mercher 30 Mai, gan deithio trwy Wrecsam, Croesoswallt a'r Trallwng, cyn croesi'r ffin eto tuag at Yr Amwythig.
Mae dathliadau mawr wedi'u trefnu ar gyfer y trefi a'r dinasoedd lle bydd y ffagl yn aros dos nos, a disgwylir i gannoedd o bobl ymgynnull ar strydoedd yr holl gymunedau sy'n rhan o'r daith.
Un o'r uchafbwyntiau fydd dydd Mawrth 29 Mai, pan fydd trên bach yr Wyddfa'n cario'r fflam Olympaidd mewn llusern i'r copa.
Yn gynharach, bydd y ffagl yn cael ei chario ar gefn un o Gobiau Ceredigion yn Aberaeron ac, ar ei diwrnod olaf yng Nghymru, ar gwch fydd yn cael ei dynnu â llaw ar draws traphont ddŵr Pontcysyllte, ger Wrecsam.
Ar y dydd Llun bydd arweinwyr dinesig ardal Wrecsam yn ymgynnull ger y bont ddŵr hynod, a adeiladwyd gan Thomas Telford 200 mlynedd yn ôl, i ddathlu taith y ffagl trwy'r fwrdeistref.
Yn sgil y cyhoeddiad bod y fflam yn aros dros nos ym Mangor a Chaer bu pryderon y gallai'r dref fwyaf yng Ngogledd Cymru fod ar eu colled.
Dywedodd y Cynghorydd Bob Dutton, aelod arweiniol cyngor Wrecsam dros gymunedau a pherfformiad: "Mae'r cyhoeddiad a'r newyddion y bydd tair cymuned arall yn Wrecsam yn croesawu'r Fflam Olympaidd yn anrhydedd fawr i'r ardal."
Dywedodd Yr Arglwydd Coe, cadeirydd Locog: "Rydym wrth ein boddau fod y Fflam Olympaidd yn ymweld â Thraphont Ddŵr enwog Pontcysyllte fel rhan o'i thaith o amgylch y Deyrnas Unedig.
"Rydym wedi gweithio'n galed i ddyfeisio taith sy'n sicrhau bod y nifer fwyaf o bobl yn cael gweld y fflam, a'i bod hi hefyd yn ymweld â thirwedd a thirnodau hynod y Deyrnas Unedig, a thrwy fynd trwy'r ardal hon, a defnyddio dull amgen Telford o deithio, rydyn ni'n gwneud yr union beth hwnnw."
'Atgofion gwych'
Dywedodd Lynn Davies, y Cymro a enillodd y Naid Hir yng Ngemau Tokyo yn 1964, ei fod wrth ei fodd fod y daith yn ymweld â'i bentref genedigol, sef Nantymoel ger Pen-y-bont ar Ogwr.
Meddai Davies, llywydd UK Athletics a llysgennad Olympaidd: "Mae'n wych bod y ffagl yn mynd i bob rhan o Gymru, i Gaerdydd, Abertawe, Aberystwyth a gogledd Cymru.
"Ond mae'r ffaith ei bod hi'n dod i'm cymuned fach lofaol enedigol i'n fendigedig.
"Mae'n wych bod y bobl ifanc sydd yno'n cael cyfle i weld y ffagl Olympaidd eiconig yma'n cael ei chario trwy Gwm Ogwr a thrwy Nantymoel ei hun.
"Os alla' i, mi fyddwn i wrth fy modd yn bod yno, oherwydd mae gen i atgofion gwych o dyfu lan yno'n grwt bach."
Bydd Castell Caerffili'n llwyfannu digwyddiad arbennig am 1000 GMT ar y dydd Llun i ddathlu'r ffaith ei fod yn rhan o'r daith.
Bydd David Roberts, enillydd 11 medal aur Paralympaidd, sy'n aelod o glwb nofio Caerffili yn mynychu'r dathliad, yn ogystal â'r athletwr, Jamie Baulch, y chwaraewr rygbi chwedlonol Gerald Davies, a phlant lleol, sydd wedi gwneud eu ffaglau'u hunain.
Disgwylir y bydd 500 o redwyr yn cario'r ffagl Olympaidd yn ystod ei thaith trwy Gymru. Gwahoddwyd aelodau o'r cyhoedd i enwebu pobl maen nhw'n teimlo sy'n haeddu cael y cyfle i gario'r fflam.
Er y bydd y daith yn ymweld â phob un o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru, ac yn pasio trwy'r rhan fwyaf o'r prif drefi a dinasoedd, mae'r ardaloedd sy'n debygol o golli allan yn cynnwys trefi Aberhonddu, Llandrindod a'r Drenewydd ym Mhowys, tref porthladd Caergybi yn Sir Fôn, a Glyn Ebwy.