Yr RSPCA yn codi pryderon am y diwydiant magu cŵn yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gymdeithas Er Atal Creulondeb i Anifeiliaid wedi codi pryderon am y diwydiant magu cŵn yng Nghymru, gan ddisgrifio rhai bridwyr yn "anghyfrifol".
Mae adroddiad diweddar yr elusen yn dangos fod bron i 2,000 o sefydliadau magu cŵn drwy'r wlad.
Dywedodd Gweinidog Amgylchedd Cymru, John Griffiths, ei fod yn "fater emosiynol" a bod Llywodraeth Cymru'n bwriadu cyflwyno rheolau newydd ar fridio cŵn y flwyddyn nesa'.
Dywedodd yr RSPCA fod 646 o gŵn wedi cael eu rhoi mewn gofal yn 2010, tra bod cynghorau Cymru wedi delio gydag 8,039 o gŵn strae.
Mae adroddiad Dangosyddion Lles Anifeiliaid Cymru 2011, dolen allanol yn canolbwyntio ar y sefyllfa yng Nghymru yn benodol - y tro cynta' i'r gymdeithas gyflwyno adroddiad o'r fath, gan eu bod wedi cyhoeddi adroddiadau ar y cyd rhwng Lloegr a Chymru cyn hyn.
Mae'n delio ag amryw o faterion, fel delio â chreulondeb i anifeiliaid, ac mae hefyd yn cynnig golwg ehangach ar rasio milgwn, lles ieir buarth, yn ogystal â sefydliadau magu cŵn a chŵn peryglus.
Trwy eu gwaith â'r RSPCA ac awdurdodau lleol, mae Heddlu De Cymru wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y digwyddiadau yn ymwneud â chŵn peryglus dros y pum mlynedd diwetha', meddai'r adroddiad.
Rheolau llymach?
Roedd dau achos wedi'u cofnodi yn 2007, 103 yn 2010, a 91 hyd yma yn 2011.
Y llynedd roedd yr RSPCA wedi ymateb i 60,000 o alwadau ffôn yn ymwneud â chreulondeb. Ond roedd 'na lai o bobl wedi'u cael yn euog o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid yn 2010 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol - o 204 yn 2009, i lawr i 147 y llynedd.
Mae'r gymdeithas eisiau i Lywodraeth Cymru gyflwyno rheolau llymach i'r diwydiant bridio cŵn.
Maen nhw'n galw am gyflwyno isafswm staff mewn sefydliadau magu cŵn, fel bod digon o bobl i ofalu am ac ymarfer yr anifeiliaid. Maen nhw hefyd eisiau gwneud microsglodion yn orfodol.
Yn ôl yr adroddiad: "Mae 'na nifer o faterion yn ymwneud â bridio cŵn sy'n destun pryder mawr i'r RSPCA.
"Mae'r rhain yn cynnwys materion lles ac iechyd mewn cysylltiad â bridio cŵn pedigri, bridwyr anghyfrifol neu 'ffermwyr cŵn", a'r safonau cyfredol ar gyfer bridwyr trwyddedig."
Yr wythnos ddiwetha' cyflwynodd Grŵp Cynghori Cymru ar Gŵn - a sefydlwyd i amddiffyn buddiannau rhai sy'n bridio o ran pleser - ddeiseb, dolen allanol i Lywodraeth Cymru, yn galw am ymchwiliad yn edrych ar "orfodaeth safonau lles anifeiliaid o fewn y diwydiant magu cŵn yn ne orllewin Cymru".
Amrywiaeth
Yn ôl ysgrifennydd y grŵp, Colin Richardson, mae 'na amrywiaeth yn y modd y mae awdurdodau Cymru'n delio â'r rheolau a byddai deddfwriaeth yn gallu mynd i'r afael â hyn.
"Oherwydd bod 'na gymaint o amrywiaeth rhwng cynghorau, trwyddedau a'r gofynion, 'da ni'n galw am ymchwiliad annibynnol," meddai.
"Fe ddylen ni gyd gymryd cam yn ôl, rhoi'r gorau i feio pawb a chael rhywun annibynnol i edrych ar beth sy'n mynd ymlaen."
"Bydden ni'n hoffi ymchwiliad annibynnol i'r modd y mae sefydliadau magu cŵn yn cael eu trwyddedu."
Galwodd Bethan Jenkins, AC Plaid Cymru dros dde orllewin Cymru, ar bwyllgor deisebau'r Cynulliad - a gafodd ei sefydlu i ystyried deisebau ac ystyried pa gamau i'w cymryd - i gynnal ymchwiliad.
"Mae hyn yn rhywbeth y dylen ni edrych arno o ddifri fel pwyllgor deisebau," meddai.