'Pwysig dysgu gan sefydliadau sy'n arloesi wrth ddefnyddio'r Gymraeg'

Osian Llywelyn, dirprwy gomisiynydd y Gymraeg a chyfarwyddwr rheoleiddio'r swyddfa
  • Cyhoeddwyd

Mae'n bwysig dysgu gan sefydliadau sy'n arloesi wrth ddefnyddio'r Gymraeg i gynnig a darparu gwasanaethau, yn ôl Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg.

Bydd cynhadledd yn cael ei chynnal yn Wrecsam ddydd Mawrth er mwyn rhoi cyfle i sefydliadau rannu arfer da a hyrwyddo dulliau o weithio mewn gwahanol sectorau.

Daw'r digwyddiad ar drothwy ymgyrch flynyddol y Comisiynydd, 'Defnyddia dy Gymraeg', fydd eleni yn canolbwyntio ar ddathlu 20 mlynedd o gynllun 'Iaith Gwaith'.

Dywed Osian Llywelyn ei fod yn "gobeithio y bydd y gynhadledd yn cynnig hwb pellach i gynyddu amlygrwydd y Gymraeg yn ein bywydau bob dydd".

Bydd y gynhadledd - sydd wedi ei threfnu gan swyddfa'r Comisiynydd - yn cael ei chynnal yng Ngholeg Cambria yn Wrecsam.

Fe fydd cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, cymdeithas adeiladu'r Principality, elusen GISDA a Stephen Rule, y Doctor Cymraeg ymhlith y cyfranwyr.

Ymdrechion rhai sefydliadau yn 'galonogol'

Yn eu cynllun strategol diweddaraf mae Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi nodi'r gweithle fel maes sydd angen ei ddatblygu dros y pum mlynedd nesaf.

"Un o'n prif amcanion yw gwella ansawdd y gwasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg, a thrwy hynny gynyddu'r defnydd ohonynt," meddai Osian Llywelyn.

"Wrth drafod gydag amryw sefydliadau, yr hyn sydd yn galonogol i nodi yw bod nifer eisoes yn ystyried ffyrdd arloesol o sicrhau fod y Gymraeg i'w gweld a'i chlywed o fewn pob elfen o'u gwaith, ac o ganlyniad mae'n amlycach yn eu gwasanaethau i'r cyhoedd.

"Mae'r gynhadledd felly yn gyfle i glywed a deall mwy am sut y caiff y cynlluniau hynny eu rhoi ar waith."

Elen Mai Nefydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Prifysgol Wrecsam bellach "wedi ymrwymo'n ehangach i'r Gymraeg," meddai Elen Mai Nefydd

Hefyd yn cyfrannu yn y gynhadledd bydd Elen Mai Nefydd, Dirprwy Is-Ganghellor Cysylltiol (Y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth), ym Mhrifysgol Wrecsam.

"O'n safbwynt ni mae'n gyfle i sôn am y fframwaith ni wedi ei rhoi mewn lle yma dros y dair blynedd ddiwethaf gyda'r nod o ddod â'r Gymraeg yn fyw ym Mhrifysgol Wrecsam," meddai.

"Mae'r brifysgol bellach wedi ymrwymo'n ehangach i'r Gymraeg drwy sicrhau fod yr iaith, y diwylliant a'r dreftadaeth yn themâu ar draws ein gwaith bob dydd.

"Mae'n canolbwyntio nid yn unig ar ddatblygu'r ddarpariaeth academaidd drwy'r Gymraeg, ond hefyd ar ddatblygu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn galluogi ein myfyrwyr i feithrin y sgiliau angenrheidiol i fyw a gweithio'n hyderus drwy'r Gymraeg."

Bathodyn oren y Gymraeg yn 20 oed

Mae'r swigen oren sy'n dynodi fod rhywun yn siarad Cymraeg yn 20 oed eleni.

Cafodd ei lansio gan yr hen Fwrdd Yr Iaith Gymraeg er mwyn caniatau i bobl nodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg wrth siarad â rhywun mewn siop neu wasanaeth.

Dynes yn gwisgo lanyard efo'r bathodyn orenFfynhonnell y llun, Comisiynydd y Gymraeg
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n 20 mlynedd ers lansio'r logo oren

Mae bellach dan ofal Comisiynydd y Gymraeg a'u cynllun Iaith Gwaith.

Dywedodd Mr Llywelyn: "Mae'n amserol fod y gynhadledd yn cael ei chynnal wrth i ni edrych ymlaen i'n hymgyrch flynyddol Defnyddia dy Gymraeg a fydd eleni yn rhoi sylw arbennig i ddathlu 20 mlynedd o gynllun Iaith Gwaith.

"Mae'r bathodyn oren wedi bod yn llwyddiannus wrth annog pobl i sgwrsio a defnyddio'r Gymraeg a'n gobaith ni yw y bydd y gynhadledd yn cynnig hwb pellach i gynyddu amlygrwydd y Gymraeg yn ein bywydau bob dydd."

Bydd ymgyrch newydd y Comisiynydd, Defnyddia dy Gymraeg, yn dechrau yn swyddogol ar ddydd Llun, 24 Tachwedd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.