Bachgen, 14, yn achub ei deulu rhag tân difrifol yn y gogledd

Mae apêl ar-lein bellach wedi codi mwy na £1,700 i helpu'r teulu ymdopi â'r sefyllfa
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth bachgen yn ei arddegau achub ei deulu rhag tân difrifol a ddinistriodd eu cartref.
Ffoniodd Rhys, sy'n 14 oed, y gwasanaethau brys cyn gwneud yn siŵr fod ei fam a'i frawd wedi mynd allan o'r tŷ yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint.
Dywedodd Amy Eggeling, 41, mai colli lluniau o'i meibion oedd y peth gwaethaf am y profiad.
Mae'r teulu bellach yn swyddogol ddigartref ac yn aros mewn llety dros dro tan iddyn nhw ganfod rhywle arall i aros.

Cafodd yr adeilad ei ddifrodi yn sylweddol yn y tan ddechrau mis Tachwedd
Cychwynnodd y tân yn ystafell wely'r tŷ rhent ar nos Sul, 9 Tachwedd.
Dywedodd Amy mai ei mab ieuengaf, Euan, 10 oed, sydd ag awtistiaeth ac oedi mewn datblygiad [GDD], wnaeth roi matres ei lofft ar dân gyda thaniwr.
Roedd ei gyflwr yn golygu nad oedd yn deall yr hyn yr oedd wedi'i wneud.
Wrth i'r fflamau ledaenu ceisiodd Ms Eggeling ddiffodd y tân gyda dŵr, tra bod ei mab hynaf yn gweithredu ar gyngor diogelwch tân.
Caeodd ddrws ei ystafell wely, gan amddiffyn y rhan fwyaf o'i eiddo rhag cael ei ddifrodi gan y fflamau.
Rhys wedi 'cymryd rheolaeth' o'r sefyllfa
Gwisgodd Rhys ei frawd bach cyn galw'r gwasanaeth tân, meddai ei fam, gan ychwanegu iddo "gymryd rheolaeth lwyr" o'r sefyllfa.
"Ceisiodd gael Euan allan o'r tŷ ond roedd yn gwrthod gadael hebof i. Fe wnaeth Rhys fy llusgo allan o'r tŷ yn llythrennol tra'i fod ar y ffôn i 999."
Aeth Amy yn ei blaen i esbonio bod yr atig, lle'r oedd lluniau ac atgofion o pan roedd y plant yn fabanod, wedi eu dinistrio'n llwyr.
Mae'r teulu bellach yn swyddogol ddigartref ac mae Amy a Rhys yn aros mewn gwesty cyfagos, tan iddyn nhw ganfod rhywle arall i aros.
Mae Euan yn aros gyda'i dad, gan nad ydy'r gwesty'n addas ar gyfer ei anghenion iechyd meddwl cymhleth.

Fe wnaeth Jack Miller, ffrind Amy, drefnu apêl am arian ar-lein oherwydd bod y teulu wedi "colli llawer o eiddo, rhai pethau na chawn nhw fyth yn ôl".
Mae Amy a Mr Miller yn arwain cwmni cymunedol ar y cyd sy'n cefnogi lles drwy gomedi.
Eglurodd Amy fod llawer o'r rhoddion wedi dod gan rieni sydd â phlant gydag anghenion dysgu ychwanegol a digrifwyr y mae hi wedi gweithio gyda nhw.
Dywedodd iddi grio pan glywodd hi am yr apêl, gan ganmol natur y gymuned gomedi a'r "cariad a'r gefnogaeth" maen nhw wedi ei dderbyn.
"Mae gwybod bod hwnnw yno yn codi'r pwysau oddi ar fy ysgwyddau," ychwanegodd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd
