Arestio dau wedi i ddisgybl fynd yn sâl ar ôl anadlu hylif fepio

- Cyhoeddwyd
Mae dyn 19 oed a bachgen yn ei arddegau wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gyflenwi cyffuriau dosbarth C.
Cafodd y ddau eu harestio ym Mae Colwyn ddydd Llun ac maen nhw'n parhau yn y ddalfa.
Mae'r ddau wedi cael eu harestio yn sgil digwyddiad sy'n gysylltiedig â gwerthu hylif fepio - mae yna amheuon ei fod yn cynnwys y cyffur synthetig 'Spice'.
Daw hyn yn dilyn adroddiadau diweddar bod disgybl mewn ysgol uwchradd wedi mynd yn sâl ar ôl anadlu hylif fepio a oedd yn cynnwys sylwedd anhysbys.
Dywedodd yr Arolygydd Mathew Kelly-Smith: "Roedd hwn yn ddigwyddiad difrifol, ac rwy'n deall y pryder y bydd yn ei achosi i lawer o rieni ac aelodau'r gymuned.
"Ein blaenoriaeth yn yr achos hwn yw amddiffyn pobl ifanc eraill yn yr ardal rhag niwed."
Ychwanegodd fod ymdrechion yn cael eu gwneud i ganfod yr union amgylchiadau a arweiniodd at y salwch, ac i weld pa mor beryglus gall yr hylifau fepio yma fod.
Mae'r llu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.