Galw am ardal fenter yng Nghasnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae deiseb yn cael ei chyflwyno i'r Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu ardal fenter yng Nghasnewydd.
Mae diwydiannau ym mhum parth yng Nghymru i dderbyn rhyddhad ardrethi a gallent dderbyn gostyngiadau yn eu trethi.
Y pum parth yw Ynys Môn, Glyn Ebwy, Glannau Dyfrdwy, Sain Tathan ym Mro Morgannwg a Chaerdydd.
Ond mae cynghorydd Dinas Casnewydd, David Williams am i'r mater gael ei drafod yn y Senedd.
'Paced o sigaréts'
Mr Williams sydd y tu cefn i'r ddeiseb fydd yn cael ei chyflwyno i aelodau o'r Pwyllgor Deisebau, grŵp trawsbleidiol sydd yn cael ei gadeirio gan AC Canolbarth a Gorllewin Cymru, Williams Powell.
Mae Llywodraeth Cymru wedi eu cyhuddo o beidio â chreu digon o ardaloedd menter o'i gymharu â Lloegr, lle bydd 21 ardal menter yn cael eu creu.
Dywedodd y Gweinidog Busnes, Edwina Hart eu bod wedi gwneud ei phenderfyniad wedi iddi siarad â busnesau yn ystod yr haf.
Ond mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad, Andrew RT Davies yn honni bod polisi'r llywodraeth ynghylch ardaloedd menter wedi ei greu "ar gefn paced o sigarets".
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Alun Ffred Jones, nad oedd "llawer o ardaloedd" Cymru wedi eu cynnwys.