Yr Urdd yn mentro dros y ffin

  • Cyhoeddwyd
Capel Jewin Llundain (llun gan John Samuel)Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yng Nghapel Jewin, Llundain

Am y tro cyntaf erioed fe fydd un o Eisteddfodau Sir yr Urdd yn cael ei chynnal y tu allan i Gymru'r flwyddyn nesaf.

Mae'r Urdd wedi cadarnhau wrth raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru mai capel yn ardal y Barbican yn Llundain fydd y lleoliad.

Dywedodd Aled Siôn, cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd: "Mae nifer gynyddol o gystadleuwyr sy'n byw dros y ffin ac yn awyddus i gyrraedd llwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol.

"Y llynedd cafodd Eisteddfod 'ranbarthol' debyg ei chynnal i bobl Lloegr a thu hwnt, yng Nghapel y Crwys, Caerdydd.

"Cawson ni adborth o'r criw ac roedden nhw'n dweud y byddai un yn Llundain yn fwy cyfleus".

Yn 2008 roedd chwech yn cystadlu ond llynedd roedd dros 90 - nifer o Ysgol Gymraeg Llundain a'r Aelwyd yn Llundain ond rhai hefyd o'r Aelwyd yn Durham ac un cystadleuydd ar Skype o Singapore.

O dan yr hen drefn roedd aelodau'r Urdd oedd yn byw y tu allan i Gymru yn arfer mynd yn syth i'r rhagbrawf yn yr Eisteddfod Genedlaethol tra oedd pawb arall yn cystadlu yn yr Eisteddfod Gylch a Sir.

Yng Nghapel Jewin yn Llundain ar Fawrth 17, 2012, y bydd yr Eisteddfod Sir.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol