Ysgolion Sul yn cyfarfod yn yr wythnos

  • Cyhoeddwyd
Gweithgareddau Ysgol Sul Capel Noddfa Llanbedr Pont SteffanFfynhonnell y llun, BBC news online
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai eisiau cadw at y traddodiad o gynnal yr Ysgol Sul ar y Sul yn unig

A ddylid cynnal Ysgolion Sul ar y Sul?

Mae arweinwyr capeli ac eglwysi wedi dweud wrth BBC Cymru bod mwy o Ysgolion Sul yn cyfarfod ar ddiwrnod arall o'r wythnos erbyn hyn yn hytrach na'r Sabath.

Bywydau prysur plant sy'n benna gyfrifol am hynny, gyda'r mwyafrif yn dewis ymarferion rygbi, pêl-droed neu ganu yn lle'r Ysgol Sul.

Mae'r Cyngor Ysgolion Sul yn croesawu'r trefniant ond dyw pawb ddim yn teimlo'r un fath.

Mae plant Capel Noddfa yng nghanol Llanbedr Pont Steffan yn gwneud amrywiaeth o bethau yn eu hysgol Sul, o ganu caneuon, ymarferion, arlunio, chwarae gemau, celf a chrefft.

Ond dyw'r Ysgol Sul yma ddim yn ymgynnull ar y Saboth.

Fe newidiodd y drefn fis Medi'r llynedd ac maen nhw'n cyfarfod ar brynhawn Gwener.

'Llwyddiant'

"Roedden ni'n arfer cynnal yr ysgol am 10.30am ar foreau Sul," meddai'r athrawes Janet Evans.

"Ond mae 'na glwb rygbi llwyddiannus yma ac roedd y bechgyn yn chwarae rygbi'r un pryd.

"Fe wnes i gynnal cyfarfod gyda'r rhieni ac roedden nhw i gyd yn barod iawn i ddod ynghyd ar nos Wener.

"Mae wedi bod yn llwyddiant mawr.

"Pan oedden ni yn blant, dyna'i gyd oedd ar y Sul, ond mae cymdeithas wedi newid dros y blynyddoedd.

"Mae'n bwysig eu bod yn cael yr Ysgol Sul ond dim bwys pa ddiwrnod."

Ond dyw pawb ddim yn cytuno a hynny.

"Pan mae'r eglwys yn cyfarfod, mae o bob amser yn rhywbeth derbyniol," meddai'r Parchedig Jill Hailey Harries.

"Pan mae'r eglwys yn cyfarfod yn yr wythnos mae i'w gymeradwyo yn fawr, ond nid yw Ysgol Sul yw e, ond clwb.

"Mae 'na gliw yn yr enw Ysgol Sul mai ar y Sul y dylai fod.

"Rheswm pam yr enw, yw ein bod wedi neilltuo'r Sul i ddod at ein gilydd fel Cristnogion ac mae 'na gymal yn y Deg Gorchymyn yn dweud bod angen cadw'r dydd yn sanctaidd.

"Mae bod yn Cristion yn anodd ac wrth gwrs mae'n golygu aberthu weithiau."

Hyblygrwydd

Ond mae'n ymddangos fod ei barn hi yn y lleiafrif.

Fe wnaeth BBC Cymru gysylltu gyda 10 o weinidogion ac fe ddywedodd y mwyafrif llethol eu bod hi'n well cynnal yr Ysgol Sul ar ddiwrnod arall na pheidio ei chynnal o gwbwl.

Ffynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o weithgareddau yn cael eu cynnal yn yr Ysgol Sul

"Marw mae pethau os ydach chi'n cadw yn y rhigol," meddai Parchedig WJ Edwards.

"Wnaeth Iesu Grist ddim dweud bod angen cynnal Ysgol Sul am 10 neu 2 ar y Sul mwy nac oedfaon.

"Mae angen bod yn hyblyg, rydan ni'n byw mewn oes wahanol."

I Gyngor Ysgolion Sul, mae newid y diwrnod yn gwbl dderbyniol yn yr oes brysur hon.

"Mae patrwm y Sul traddodiadol wedi newid," meddai'r Parchedig Aled Davies o'r cyngor.

"Un peth ydi hi i eglwysi ddweud mai nhw ddylai gael y flaenoriaeth.

"Rydan ni'n byw yn y byd real ac mae'n braf gweld, os ydi eglwysi yn dweud mai ar nos Fercher neu nos Wener mae'r plant ar gael i ddod at ei gilydd yna iawn.

"Os ydan ni am gladdu ein pennau yn y tywod a dweud na bod rhaid i ni aros i gyfarfod ar y Sul yna fe fyddwn ni'n colli'r plant."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol