Teyrnged teulu dyn fu farw wrth groesi llinell derfyn hanner marathon

Bu farw Kory Russell wrth linell derfyn Hanner Marathon y Parciau Brenhinol yn Llundain
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn a fu farw ar linell derfyn hanner marathon wedi dweud mai ef oedd y "mab a'r brawd gorau y gallai unrhyw un ofyn amdano".
Cwympodd Kory Russell, 25, o Sili ym Mro Morgannwg ar linell derfyn Hanner Marathon y Parciau Brenhinol yn Llundain ar 12 Hydref.
Cafodd driniaeth feddygol arbenigol yn y fan a'r lle a chafodd ei gludo i'r ysbyty, ond bu farw'n ddiweddarach.
Dywedodd ei rieni Matt a Rhi Russell bod Kory'n ffit ac yn iach ac wedi bod yn dilyn amserlen hyfforddi reolaidd cyn yr hanner marathon.
'Gwenu ar bob cyfle'
Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd y teulu y bydd Kory'n cael "ei gofio am ei garedigrwydd, ei natur ofalgar, ei hiwmor, ond yn bwysicach fyth, ac yn bwysicaf oll, ei wên heintus a fyddai'n goleuo ystafell.
"Byddai'n gwenu ar bob cyfle," meddai'r teulu a dyna y maen nhw am iddo gael ei gofio amdano fwyaf.
Dywedodd ei deulu bod Kory'n "falch iawn o'i wreiddiau Cymreig", yn siaradwr Cymraeg ac yn mynychu'r eisteddfod yn rheolaidd.
Ers graddio o brifysgol Loughborough, roedd Kory wedi bod yn byw ac yn gweithio yn Llundain.
Mae ei deulu'n ei ddisgrifio fel person brwdfrydig, gweithgar ac roedd bob amser yn brysur.
Roedd hefyd yn gogydd gwych, a bu'n gweithio mewn bwyty ym Mhenarth sydd â seren Michelin.

Dyw achos swyddogol marwolaeth Kory ddim yn hysbys eto
Cyn ei farwolaeth fe redodd Kory sawl ras 5k gan gymryd rhan mewn sawl park run yn Llundain.
Roedd yn nofiwr brwd ac yn cynrychioli Clwb Nofio Dinas Caerdydd pan oedd yn iau.
Dywedodd ei fam Rhi Russell ei fod yn edrych ymlaen at redeg Hanner Marathon y Parciau Brenhinol gyda'i deulu a'i ffrindiau yno i'w gefnogi.
"Fe newidiodd y cyfan mor gyflym," meddai Mrs Russell.
"Fe gwympodd wrth iddo agosáu at y linell derfyn.
"Ni'n credu bod ei galon wedi stopio ar ôl cael ataliad," ychwanegodd.
Un eiliad roedd ei deulu'n ei gefnogi a'r eiliad nesaf roedd Kory wedi "cwympo'n anymwybodol ac yn cael ei gludo i'r babell feddygol".
"Ar un adeg roedd 26 o weithwyr meddygol proffesiynol o'i gwmpas yn ceisio achub ei fywyd."
Person wedi marw mewn hanner marathon
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2019
Cafodd Kory ei gludo mewn ambiwlans i ysbyty cyfagos, ond bu farw'n ddiweddarach.
Diolchodd ei rieni i'r staff meddygol a threfnwyr y ras am yr holl gymorth a chefnogaeth.
Dywedodd Matt Russell: "Fe welon ni arbenigedd meddygol y parafeddygon a'r meddygon yn uniongyrchol, a 'da ni'n gwybod eu bod wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu Kory."
Mae rhedwyr yr hanner marathon wedi cysylltu â theulu Kory ers hynny gan rannu geiriau caredig a'u sicrhau bod gweithwyr meddygol proffesiynol wedi helpu Kory o fewn eiliadau.
Dywedodd trefnwyr y digwyddiad: "Hoffai pawb a oedd yn rhan o drefnu Hanner Marathon y Parciau Brenhinol fynegi cydymdeimlad diffuant â theulu a ffrindiau Kory."
Mi fydd angladd Kory'n cael ei gynnal ddydd Gwener, a bydd cân a ysgrifennwyd gan ei frawd Iosi yn cael ei pherfformio.
Mae Dafydd Iwan hefyd wedi anfon neges at y teulu ac mi fydd y neges honno'n cael ei chwarae yn yr angladd.
Dyw achos swyddogol marwolaeth Kory ddim yn hysbys eto.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.