Prifathro ddangosodd ei hun yn noeth i staff wedi ei wahardd am 15 mlynedd

James 'Jamie' RichardsFfynhonnell y llun, Ysgol Gynradd Cadle
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd James Richards ei ddisgrifio fel dyn "ysglyfaethus"

  • Cyhoeddwyd

Mae prifathro wedi cael ei wahardd rhag gweithio mewn ysgolion am o leiaf 15 mlynedd, ar ôl dangos ei hun yn noeth i aelodau staff.

Fe wnaeth James 'Jamie' Richards, cyn-bennaeth Ysgol Gynradd Cadle yn Abertawe, wneud hynny ar safle'r ysgol ac ar drip ysgol.

Cafodd ei wahardd ar ôl i banel glywed ei fod wedi dangos ei gorff a lluniau anweddus ohono'i hun i bump o fenywod.

Dywedodd llefarydd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) fod Richards wedi camddefnyddio ei safle o ymddiriedaeth ac wedi dweud wrth ei ddioddefwyr ofnus i beidio â dweud dim.

Daeth y panel i'r casgliad bod ymddygiad Richards, sy'n dad i ddau, wedi peryglu eraill am dros ddegawd.

'Archwilia hwn Miss'

Yn ystod gwrandawiad pedwar diwrnod, disgrifiodd cyn-staff a rhai presennol Ysgol Gynradd Cadle sut yr oedd ymddygiad Richards, y pennaeth o 2011 i 2021, wedi achosi trawma i nifer o fenywod.

Ar un achlysur dangosodd Richards ei bidyn i athrawes ar drip ysgol, gan ddweud wrthi: "Archwilia hwn Miss", canfu'r panel.

Cafodd aelod arall o staff ei galw i'w swyddfa a'i ganfod yn sefyll wrth ymyl ei ddesg, gyda'i drowsus a'i drôns wedi'u tynnu i lawr.

Clywodd y panel ei fod wedi dweud wrth un aelod o staff am fynd i'w swyddfa, lle'r oedd yn eistedd gyda'i bidyn allan gyda sbectol arno.

Fe wnaeth hefyd ddangos lluniau anweddus ar ei ffôn yn ystod cyfarfod ac ar achlysur arall roedd wedi dangos fideo ohono'n gwneud gweithred rywiol i'w hun.

'Dideimlad ac ofnus'

Dywedodd y menywod eu bod wedi eu gadael mewn "sioc", "yn ddideimlad" ac yn "ofnus".

Clywodd y gwrandawiad nad oedden nhw'n gallu credu y byddai'r pennaeth, oedd yn ymddangos yn gyfeillgar, yn gwneud hyn, yn enwedig ar dir yr ysgol.

Ar adegau, roedd Richards wedi ymddiheuro yn syth wedyn, gan ddweud wrth un aelod benywaidd o staff, wrth iddo ddangos ei hun yn noeth, ei fod yn caru ei wraig a'i blant.

"Alla' i ddim helpu fy hun," meddai.

Dywedodd wrth un arall: "Ti wedi gweld gormod ohona' i", ar ôl dangos lluniau anweddus iddi yn lle cyflwyniad gwaith.

Roedd pump o fenywod oedd yn gweithio gyda Richards wedi disgrifio sut y gwnaeth y cyn-brifathro ddangos ei hun yn noeth iddynt, a bod ganddynt ofn son wrth yr awdurdodau.

James Richards oedd pennaeth Ysgol Gynradd Cadle o 2011 i 2021Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

James Richards oedd pennaeth Ysgol Gynradd Cadle o 2011 i 2021

Clywodd y gwrandawiad bod Richards yn boblogaidd o fewn cymuned yr ysgol, a bod y menywod yn ofni na fydden nhw'n cael eu credu pe byddent yn adrodd am ei weithredoedd.

Dywedodd un ei bod yn teimlo bod y gred honno wedi ei chyfiawnhau pan gafodd Heddlu'r De eu rhybuddio, ond wedi penderfynu nad oedd achos troseddol i'w ateb ar ddiwedd 2021.

Disgrifiodd wrth y panel ei bod hi wedi cael ei siomi gan yr ysgol a'r heddlu ac yn flin iawn bod Richards wedi gallu ymddiswyddo yn ystod ymchwiliad mewnol, ar ôl iddo gael ei wahardd yn 2021.

Ychwanegodd ei bod wedi teimlo ei bod wedi cael ei thawelu, tra bod Richards wedi osgoi cyfiawnder.

Mae Heddlu'r De wedi derbyn cais am ymateb.

Ymddangosodd pob un o'r menywod i roi tystiolaeth rhwng 24-27 Tachwedd, ond ni wnaeth Richards ymwneud â phroses y CGA o gwbl.

Oherwydd hynny, fe wnaeth y panel gymryd ei fod yn gwadu'r holl honiadau.

Disgrifiodd cadeirydd y panel, Sue Davies, sut yr oedd Richards wedi gwrthod cael ei gyfweld ar gyfer ymchwiliad mewnol annibynnol yr ysgol yn 2021.

Roedd hefyd wedi honni trwy ei undeb nad oedd yn gallu cael ei gyfweld oherwydd ei iechyd.

Fe wnaeth tîm twyll Cyngor Abertawe ddilyn Richards tra'r oedd yn honni ei fod yn sâl a'i ffilmio'n gyrru ac yn mynd i chwarae golff gyda grŵp o ffrindiau.

'Risg i fenywod ifanc'

Dywedodd Ms Davies bod y tystion wedi bod yn glir a chredadwy, ond bod Richards yn anonest ac nad oedd wedi ymwneud nac ymateb i'r ymchwiliadau.

Dywedodd fod ymddygiad y cyn-bennaeth yn "cyfateb i aflonyddu, cam-drin ac yn ysglyfaethus".

"Roedd Mr Richards yn chwilio am foddhad rhywiol trwy ei weithredoedd ac yn mwynhau ymateb ei gydweithwyr," meddai.

Dywedodd bod ganddo "hanes a phatrwm o ymddygiad", ac yn "cynrychioli risg i fenywod ifanc a chydweithwyr".

Dywedodd swyddog cyflwyno'r CGA, Sara Lewis, bod y ffaith bod y pennaeth wedi camddefnyddio ei safle o ymddiriedaeth ac wedi dweud wrth ei ddioddefwyr i beidio â dweud unrhyw beth yn gwaethygu'r sefyllfa.

Cafodd honiad pellach ei brofi ynghylch dychwelyd gliniadur gwaith i'r ysgol, a honiad ei fod wedi achosi neu ganiatáu i wybodaeth anghywir a/neu gamarweiniol gael ei ddarparu i Gyngor Abertawe am ei iechyd.

Canfu'r panel fod ei ymddygiad gyfystyr âg ymddygiad proffesiynol annerbyniol.

Dywedodd y pwyllgor nad oedd ganddyn nhw unrhyw wybodaeth am waith presennol y cyn-bennaeth na chwaith os oedd yn bwriadu ceisio dychwelyd i'r proffesiwn addysgu.

Ond, dywedon nhw nad oedd ganddynt ddewis arall ond ei ddileu oddi ar gofrestr y CGA.

Ni all Richards wneud cais i gael ei ystyried ar gyfer swydd dysgu tan o leiaf fis Tachwedd 2040, ond nid oes unrhyw sicrwydd y byddai'n llwyddiannus pe bai'n cyflwyno cais.

Mae gan Richards yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.

Pynciau cysylltiedig