Y Tywysog William i fynd i wasanaethu i Ynysoedd Y Falkland

  • Cyhoeddwyd
Y Tywysog William wrth ei waith gyda'r Llu AwyrFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Y Tywysog William wrth ei waith gyda'r Llu Awyr

Fe fydd y Tywysog William yn gwasanaethau am chwe wythnos ar Ynysoedd y Falkland.

Ar hyn o bryd mae'n gwasanaethu gyda'r Llu Awyr yn Y Fali, Ynys Môn, fel rhan o'r uned chwilio ac achub.

Y Weinyddiaeth Amddiffyn wnaeth gyhoeddi'r manylion ddydd Iau y bydd y tywysog yn mynd i dde America ym mis Chwefror a mis Mawrth.

Mae'n rhan o'i waith gyda gwasanaeth y Llu Awyr fel peilot achub.

Bydd yn ymuno gyda phedwar o swyddogion y Llu Awyr yno.

Fe fydd ei wraig, Duges Caergrawnt, yn aros yn eu cartref ym Mhalas Kensington.

Y flwyddyn nesa mae hi'n 30 mlynedd ers y Rhyfel y Falklands.

Fe wnaeth cannoedd o Gymry wasanaethu yn y rhyfel yn ogystal ag ewythr y tywysog, Dug Caerefrog, fel hofrennydd gyda'r Llu Awyr.