Bryn Terfel yn gobeithio newid byd perfformiwr ifanc gyda'i wobr

Bryn Terfel
Disgrifiad o’r llun,

Mae Syr Bryn Terfel hefyd yn troi'n 60 oed yr wythnos hon

  • Cyhoeddwyd

Mae Syr Bryn Terfel yn gobeithio y bydd gwobr newydd gwerth £15,000 yn newid bywyd un perfformiwr ifanc.

Mae Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel, sy'n cael ei chynnig bob dwy flynedd o fis yma ymlaen, yn rhan o bartneriaeth rhwng y canwr byd-enwog a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Yn siarad ar raglen Radio Wales Breakfast am y gystadleuaeth, sy'n cychwyn ddydd Mercher, fe wnaeth Syr Bryn ei disgrifio fel un "gyffrous iawn".

Mae'r gystadleuaeth yn agored i gantorion sy'n cael eu henwebu gan gonservatoires y DU, gyda chynlluniau i ehangu hyn i gonservatoires rhyngwladol yn y dyfodol.

Eleni mae un cystadleuydd o Gymru, sef Charlotte Crane o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.

Disgrifiad,

Bu Syr Bryn Terfel yn siarad gyda BBC Cymru ar drothwy cystadleuaeth Gwobr y Gân

'Pwysleisio'r hyn sydd gennym yng Nghymru'

Dywedodd Syr Bryn: "Mae £15,000 – wel, beth fyddwn i wedi gwneud efo'r arian hynny yn y Guildhall yn Llundain?

"Bydd hi'n ddiddorol iawn i weld beth gall y myfyriwr [buddugol] ei wneud efo'r arian.

"Pethau syml fel hyfforddiant iaith ychwanegol, hyfforddiant cerddoriaeth ychwanegol, prynu siwt neu esgidiau newydd, prynu sgôr...

"Mae'n rhaid i chi gofio hefyd, maen nhw'n fyfyrwyr sydd yn y conservatoires gorau ym Mhrydain."

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r wobr yn rhan o bartneriaeth rhwng y canwr byd-enwog a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Bydd yn rhaid i'r cantorion ganu tair cân, gan gynnwys un yn eu hiaith eu hunain ac un gân yn Gymraeg sy'n agos iawn at galon Syr Bryn.

"Dwi wedi dewis Pan Ddaw'r Nos gan Meirion Williams.

"Mae'n un o'r caneuon mwyaf hyfryd sydd wedi'i hysgrifennu, am y nos yn disgyn o'n hamgylch ni, ac mae'n rhaid iddyn nhw ganu yn Gymraeg.

"Dyw hynny ddim yn rhywbeth newydd i unrhyw ganwr opera - 'dan ni'n canu mewn nifer o ieithoedd.

"Felly, y ffaith mod i eisiau hefyd, efallai, pwysleisio'r repertoire sydd gennym yng Nghymru sy'n gallu sefyll ochr yn ochr gyda'r Lieder yn yr Almaen neu y Chansons yn Ffrainc."

Troi'n 60 oed yr wythnos hon

Mae'n wythnos brysur i Syr Bryn, sy'n troi'n 60 oed ar 9 Tachwedd, ond helpu'r cantorion ifanc sydd ar flaen ei feddwl ar hyn o bryd.

"Rydw i'n mynd i weithio gyda phob un ohonyn nhw ar Pan Ddaw'r Nos," meddai.

Fe fydd rownd derfynol gyntaf Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn.

Mae'r cystadleuwyr sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn cael cyfnod preswyl, wedi'i ariannu'n llawn, o dri diwrnod yn y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama.

Bydd rhaglen o ddosbarthiadau grŵp a dosbarthiadau meistr yn canolbwyntio ar y gân, testun a pherfformio, ac yn cynnwys cyfnod gyda Syr Bryn ei hun.

Yn ogystal â Syr Bryn, bydd nifer o enwau adnabyddus o'r byd perfformio yn ymuno gyda'r cantorion ifanc, gan gynnwys y mezzo-soprano Angelika Kirchschlager, yr arweinydd Carlo Rizzi a'r soprano o Gymru Rebecca Evans.

Bryn TerfelFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Syr Bryn wedi disgrifio'r gystadleuaeth fel un "gyffrous iawn"

Beth mae Syr Bryn yn gobeithio ei weld gan y cantorion ifanc, felly?

"Yn ddiddorol, allan o'r naw sy'n cystadlu mae saith soprano," meddai.

"Dwi'n edrych am ddawn adrodd stori – gobeithio byddan nhw wedi astudio'r gân Gymraeg gyda phobl sy'n dod o Gymru.

"Mae'n rhywbeth sy'n bwysig iawn i fi, i ddod â phobl i Gymru, i'r coleg, a gallwn ni weld pa mor dda yw'r cantorion yma."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.