Llifyn cemegol yn helpu dal lladron metel

  • Cyhoeddwyd
Gweithwyr yn rhoi SmartWater ar doFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llifyn yn cael ei chwistrellu ar eiddo'r cyngor

Mae cyngor sydd wedi chwistrellu llifyn cemegol ar eu hadeiladau ac eiddo wedi croesawu'r ddedfryd o garchar i ddyn a gafodd ei ddal yn ceisio gwerthu metel yr oedd wedi ei ddwyn.

Cafodd dyn 24 oed ei garcharu am 22 wythnos gan Ynadon Casnewydd wedi iddo gyfaddef dwyn plwm o farchnad Pont-y-pŵl a Chanolfan Y Jiwbilî yn Nhorfaen.

Dywed Cyngor Torfaen fod 49 o achosion o ddwyn metel ers mis Ebrill eleni wedi costio £136,000 i'r awdurdod.

Hwn yw'r erlyniad llwyddiannus cyntaf ers i'r awdurdod lleol ddechrau defnyddio'r llifyn cemegol, SmartWater, i daclo lladradau a thipio anghyfreithlon.

Olion yr hylif

Mae gan bob costrel o hylif SmartWater arwydd cemegol unigryw sy'n sicrhau bod eiddo yn gallu cael eu holrhain i berchennog neu leoliad.

Cyngor Torfaen yw'r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio'r llifyn i ddal tipwyr anghyfreithlon.

Yr wythnos diwethaf clywodd ynadon mai £1,424.47 oedd pris y plwm a gafodd ei ddwyn o farchnad Pont-y-pŵl ond roedd y gost o amnewid y plwm a'i adfer yn agos i £6,000

Clywodd y llys fod plismyn a chynrychiolydd cwmni SmartWater wedi canfod y dyn a dyn arall, 18 oed, mewn iard sgrap ym Mhont-y-pŵl.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae metel yn gallu cael ei brofi i ganfod olion yr hylif

Defnyddiodd y cynrychiolydd olau uwch-fioled i fwrw golwg tros y metel gan ganfod olion yr hylif na ellir ei weld dan olau cyffredin.

Clywodd yr ynadon fod y ddau ddyn wedi gwadu eu bod wedi dwyn y metel gan honni bod un o'u tadau wedi'u rhoi iddyn nhw.

Cynnydd 'arwyddocaol'

Ond canfu olion traed y dyn yn y farchnad dan do a chadarnhaodd profion cwmni SmartWater fod y metel wedi'i ddwyn o do'r farchnad.

Cafodd y dyn ei ddedfrydu i 10 wythnos o garchar am ddwyn plwm o Ganolfan Y Jiwbilî.

Plediodd ei gyd-amddiffynnydd, 18 oed, yn euog a chafodd ei ddedfrydu i weithio am 200 awr heb dâl, talu £600 o gostau ac iawndal, derbyn gorchymyn cymunedol 12 mis a bydd rhaid iddo gadw at yr hwyrgloch am dri mis.

Dywedodd Cyngor Torfaen eu bod wedi dioddef cynnydd "arwyddocaol" o ladradau metel ers y llynedd pan gostiodd 35 lladrad £107,000 i'r cyngor ond bod yr erlyniad llwyddiannus yn dangos fod y cynllun SmartWater, sy'n costio £58,000 dros dair blynedd, yn dechrau talu ei ffordd.

Mae'r hylif wedi ei chwistrellu ar adeiladau'r cyngor ac eiddo sy'n cynnwys ceir, cyfarpar, a chyfrifiaduron.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae'r awdurdod wedi talu yswiriant ar gyfer unrhyw ladrad neu golled o'u heiddo ond mae'n rhaid i'r cyngor dalu am y £100,000 cyntaf o bob lladrad neu golled.

"Felly mae colledion y cyngor yn golygu bod llai o arian ar gael i wario ar wasanaethau."

Dywedodd y Cynghorydd John Cunningham, aelod gweithrediaeth gwasanaeth cymdogaeth y cyngor: "Rwy'n gobeithio bydd y ddedfryd hon yn anfon neges glir i unrhyw un sy'n ystyried cyflawni'r troseddau hunanol hyn.

"Mae lladron metel yn costio miloedd o bunnau i'r cyngor bob blwyddyn.

"Mae ein holl eiddo wedi ei chwistrellu gan SmartWater gan gynnwys ein hadeiladau, cyfrifiaduron ac offer."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol