Canolfan yn 'hwb i rygbi'r gogledd'

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Ddigwyddiadau Prc EiriasFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yn gartref i dîm RGC 1404 a fydd yn ymuno a'r cynghrair cenedlaethol y tymor nesaf yn Adran 1 y Dwyrain

Dywed Undeb Rygbi Cymru y bydd agor Canolfan Ddigwyddiadau Parc Eirias ym Mae Colwyn yn hwb aruthrol i dwf y gêm yn y rhanbarth.

Roedd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, a Phrif Weithredwr URC, Roger Lewis, ym Mae Colwyn ddydd Gwener i agor y ganolfan yn swyddogol.

Bydd yn parhau i fod yn gartref i dîm RGC 1404 a fydd yn ymuno â'r cynghrair cenedlaethol y tymor nesaf yn Adran 1 y Dwyrain, a dyma'r tîm sydd wedi ei ddewis i arwain cynllun URC i ddatblygu rygbi yng Ngogledd Cymru.

Fe fydd hefyd yn gartre i Academi Cenedlaethol URC yn y gogledd.

Mae'r adnoddau newydd a osodwyd fel rhan o waith gwerth £6.5 miliwn i uwchraddio'r safle wedi eu cynllunio i fod ar y lefel angenrheidiol i gyrraedd perfformiad rygbi elit.

'Gwneud eu marc'

"Mae adnoddau o'r safon yma yn hanfodol i helpu chwaraewyr ifanc i gyrraedd eu potensial drwy ein cynllun datblygu," meddai Pennaeth Rygbi URC, Joe Lydon.

"Mae gan RGC 1404 nawr yr adnoddau i fod yn safle chwarae a hyfforddi o'r safon ucha', gan roi cyfle iddyn nhw wneud eu marc ar rygbi yng Nghymru.

"Rydym wastad wedi cydnabod pwysigrwydd rygbi yn y gogledd, ac er bod llawer o waith i'w wneud mae ymrwymiad strategol URC wedi arwain at gynnydd go iawn."

Gemau dan-20

Dywedodd Prif Weithredwr URC, Roger Lewis: "Rwy'n clodfori Cyngor Conwy am eu gweledigaeth a Joe Lydon am yrru'r cynllun yma yn ei flaen.

"Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi chwarae rôl allweddol i wireddu'r freuddwyd, ac rwy'n diolch o galon iddyn nhw.

"Mae'n bleser gen i felly gyhoeddi y bydd gemau tîm dan-20 Cymru yn erbyn Yr Alban, Yr Eidal a Ffrainc yn cael eu cynnal ym Mharc Eirias a'u darlledu'n fyw ar BBC Cymru ac S4C."

Mae'r cyfan yn bennod newydd yn hanes cythryblus RGC 1404 ers ei sefydlu yn 2009.

Ym mis Ionawr eleni, cafodd y cwmni gwreiddiol ei ddirwyn i ben - felly hefyd cytundebau'r tîm hyfforddi gan gynnwys y prif hyfforddwr Clive Griffiths.

'Hen bryd'

Mae URC yn hyderus y bydd agor yr adnoddau newydd yn ail danio RGC 1404, gan eu galluogi i ddenu chwaraewyr gorau'r rhanbarth.

Yn hynny o beth roedd perfformiadau un gogleddwr yng Nghwpan y Byd yn galonogol, fel y dywedodd aelod o fwrdd URC a chyn seren Cymru a'r Llewod, Gerald Davies.

"Mae'n hen bryd i ddatblygiad fel hyn ddigwydd, ac fe fydd yn gwneud gwyrthiau i ddatblygu rygbi yn y rhanbarth.

"Yn George North, mae gennym rywun all arwain talent yn y gogledd a dangos beth sy'n bosib, ac fe ddylai'r adnodd newydd yma sicrhau fod mwy a mwy o bobl ifanc yn dilyn ôl ei draed."