Cwpan Heineken: Racing Metro 20-26 Gleision
- Cyhoeddwyd

Chris Czekaj yn ymosod
Racing Metro (14) 20 Ceisiau: Imhoff Ciciau cosb: Germain 4 Cic adlam: Hernandez
Gleision (17) 26 Ceisiau: Filise, Cuthbert Trosiadau: Parks 2 Ciciau cosb: Parks 4
Sicrhaodd y Gleision fuddugoliaeth wych yn eu gêm gyntaf yng Nghwpan Heineken eleni yn erbyn Racing Metro ym Mharis.
Er gwaethaf colli Jamie Roberts a James Down oherwydd anafiadau, cawsant ddechrau ardderchog i'w ymgyrch yn Ewrop y tymor hwn.
Tau Filise ac Alex Cuthbert sgoriodd ceisiau'r Gleision gyda Dan Parks yn cicio 16 pwynt.
Juan Imhoff sgoriodd gais Racing wrth i Gaetan Germain gicio 12 pwynt gyda chic adlam gan Martin Hernandez.
Racing Metro: Gaetan Germain; Sereli Bobo, Henry Chavancy, Fabrice Estebanez, Juan Imhoff; Juan Martin Hernandez, Mathieu Loree; Andrea Lo Cicero, Benjamin Noirot, Juan Pablo Orlandi, Karim Ghezal, Jone Qovu Nailiko, John Leo'o, Antoine Batut, Jacques Cronje (capt).
Gleision Caerdydd: Chris Czekaj; Alex Cuthbert, Casey Laulala, Jamie Roberts, Tom James; Dan Parks, Lloyd Williams; Gethin Jenkins, T Rhys Thomas (capt), Taufa'ao Filise, Bradley Davies, James Down, Michael Paterson, Sam Warburton, Xavier Rush.