Davies a James yn holliach ond dim lle i Ramsey yng ngharfan Cymru

Dan James, David Brooks a Ben DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ben Davies fydd capten Cymru yn absenoldeb Aaron Ramsey

  • Cyhoeddwyd

Mae Ben Davies wedi ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer y gemau yn erbyn Liechtenstein a Gogledd Macedonia er nad yw wedi chwarae ers mis oherwydd anaf.

Cafodd amddiffynnwr Tottenham Hotspur ei anafu yng ngholled Cymru yn erbyn Gwlad Belg fis diwethaf, ond mae Craig Bellamy wedi ei gynnwys ac wedi ei ddewis fel capten.

Daw hynny yn sgil absenoldeb y capten swyddogol Aaron Ramsey - sydd eto i chwarae yn yr ymgyrch ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd.

Mae heriau Ramsey, 34, gydag anafiadau wedi parhau ers iddo symud i glwb Pumas UNAM ym Mecsico dros yr haf.

Fe fydd carfan Bellamy yn wynebu Liechtenstein oddi cartref ar 15 Tachwedd cyn croesawu Gogledd Macedonia i Stadiwm Dinas Caerdydd ar 18 Tachwedd.

Mae gobeithion Cymru o gyrraedd Cwpan y Byd yn awtomatig fwy neu lai ar ben ar ôl colli i Wlad Belg ym mis Hydref - gyda'r Belgiaid bellach yn ffefrynnau clir i orffen ar frig y grŵp.

Dim ond un fuddugoliaeth sydd ei hangen ar Wlad Belg o'u dwy gêm nesaf, oddi cartref yn Kazakhstan a gartref yn erbyn Liechtenstein.

Ond er hynny, mae Cymru fwy neu lai yn saff o'u lle yn y gemau ail gyfle yn dilyn eu llwyddiant yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Leandro Trossard a Sorba ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gobeithion Cymru o orffen ar frig y grŵp fwy neu lai ar ben ar ôl colli i Wlad Belg

Mae asgellwr Leeds United, Dan James, wedi ei gynnwys yn y garfan o 26 chwaraewr wedi iddo fethu'r gemau diwethaf oherwydd anaf i'w bigwrn.

Mae Isaak Davies yn colli ei le, ond mae ei gyd-chwaraewr gyda Chaerdydd, Rubin Colwill wedi cael ei ddewis.

Dyw Connor Roberts, Danny Ward na Wes Burns ar gael oherwydd anafiadau.

Y garfan yn llawn

Gôl-geidwaid: Karl Darlow (Leeds United), Adam Davies (Sheffield United), Tom King (Everton)

Amddiffynwyr: Ben Davies (Tottenham Hotspur), Jay Dasilva (Coventry City), Chris Mepham (West Bromwich Albion), Ben Cabango (Abertawe), Joe Rodon (Leeds United), Dylan Lawlor (Caerdydd), Neco Williams (Nottingham Forest), Ronan Kpakio (Caerdydd)

Canol cae: Ethan Ampadu (Leeds United), Josh Sheehan (Bolton Wanderers), Jordan James (Caerlŷr- ar fenthyg o Stade Rennais), Liam Cullen (Abertawe), Joel Colwill (Caerdydd)

Ymosodwyr: Harry Wilson (Fulham), Nathan Broadhead (Wrecsam), Rubin Colwill (Caerdydd), Sorba Thomas (Stoke City), Lewis Koumas (Birmingham City - ar fenthyg o Lerpwl), Mark Harris (Rhydychen), Kieffer Moore (Wrecsam), Brennan Johnson (Tottenham Hotspur), David Brooks (Bournemouth), Daniel James (Leeds United)

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.