Cyfri'r gost wedi difrod 'llifogydd ofnadwy'

Mae nifer o rybuddion llifogydd wedi bod mewn grym yn y de orllewin gan Cyfoeth Naturiol Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae llifogydd yn parhau i achosi problemau mewn rhannau o Gymru wedi iddi fwrw'n drwm mewn sawl ardal ddechrau'r wythnos.
Mae rhybudd llifogydd difrifol - yr un mwyaf difrifol ble mae perygl i fywyd - mewn grym o amgylch Afon Rhydeg yn Ninbych-y-pysgod, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol (CNC).
Mae sawl rhybudd byddwch yn barod hefyd mewn grym yn rhannau o Gymru yn dilyn glaw trwm.
Parhau mae gwaith clirio ar ôl llifogydd difrifol yn y de-orllewin wrth i CNC rybuddio bod "lefelau afonydd yn codi" a bod posib iddyn nhw barhau'n uchel am sawl diwrnod.
Fe gafodd digwyddiad o argyfwng ei ddatgan gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru am 02:10 fore Mercher wrth i griwiau ymateb i dros 450 o alwadau mewn cyfnod o 12 awr, gan gynnwys achub pobl oedd yn gaeth yn eu cartrefi ac mewn cerbydau.
Llifogydd Cwmbwrla: Colli cynnwys cartref ond 'diolch am y gymuned'
- Cyhoeddwyd16 Medi
Glaw trwm yn achosi llifogydd a thrafferthion i deithwyr
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd
Fe gadarnhaodd Swyddfa'r Post brynhawn Iau bod eu swyddfa dosbarthu yng Nghaerfyrddin "ar gau dros dro oherwydd llifogydd sylweddol".
Dywedodd llefarydd: "Diogelwch ein cydweithwyr yw'r flaenoriaeth fwyaf a bydd danfoniadau'n ailddechrau gynted ag y mae'n ddiogel i wneud hynny."
Yn rhedeg busnes gwerthu ceir yng Nghaerfyrddin fe driodd Phil Morgan symud y rhan fwyaf o'r safle cyn i lefel y dŵr godi nos Fawrth, ond doedd dim modd achub popeth.
"O'dd dŵr yn dechrau codi fan hyn, fi 'di gweld 'na o'r blaen, ond mae e'n mynd, ond dim tro 'ma.
"Benderfynais i rownd marcie 16:00 i symud ceir bant, so es i bant â nhw a all of the sudden, amser dath e i'r tri dwetha fan hyn, o'dd e'n impossible. O'dd e'n codi o flaen ti, o'dd e'n ofnadwy i ddweud y gwir wrthot ti," meddai Phil Morgan.

Doedd dim modd i Phil Morgan achub popeth, er iddo symud y rhan fwyaf o bethau o safle ei fusnes gwerthu ceir
Ychwanegodd Phil Morgan nad ydy'r sefyllfa yn rhywbeth newydd.
"Beth hoffen i yw bod nhw'n gallu sorto mas bod hwn ddim yn digwydd to. Fi'n cofio hwn 40 blwyddyn yn ôl yn digwydd a sdim byd wedi altro rili yn anffodus."
"O'n i ffili mynd mewn 'na peth cynta bore ma achos o'n i ffili agor y drysau - o'dd gyment o ddŵr 'na," meddai Dai Thomas, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Total Plumbing LBS.
"Agoron ni'r drysau a weles i gymaint o lanast. Odd e tri troedfedd lan, odd y bath yn llawn dŵr, so chi'n gallu imagino faint o ddŵr sydd wedi bod yn y showroom. Mae'r showroom wedi strywo. Ni gorfod adeiladu hwnna i gyd o'r dechrau to."

Roedd yna gryn lanastr yn nhafarndy'r Cresselly Arms ym Mhontargothi wedi i llifogydd daro nos Fawrth

... a dydy'r gwaith glanhau ddim eto ar ben
Fe orlifodd Afon Teifi ei glannau gan achosi problemau yng Nghastellnewydd Emlyn, Llechryd a Chenarth.
Roedd yna lifogydd difrifol hefyd yng Nghwmbwrla, Abertawe, a hynny am yr eildro mewn ychydig wythnosau.
Wrth i'r llifogydd barhau i gael effaith sylweddol mewn ambell gymuned, dywed CNC eu bod yn parhau i fonitro'r sefyllfa.
Mae rheolwyr tafarndy ym Mhontargothi wedi disgrifio sut y bu'n rhaid symud byrddau a chadeiriau ar frys wrth i lefel yr afon godi nos Fawrth ond roedd grym y llif yn rhy nerthol.
Ond wedi ymdrechion criw o wirfoddolwyr ac oriau o waith clirio a glanhau yn y Cresselly Arms, bu'n bosib ailagor un ystafell i gwsmeriaid nos Fercher.
'24 awr eithriadol o anodd'
Mewn datganiad ddydd Mercher dywedodd y Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bod "lefelau uwch afonydd a glaw trwm wedi arwain at 24 awr eithriadol o heriol" i'w criwiau.
Cafodd y digwyddiad difrifol ei ddatgan yn ardal Hendy-gwyn ar Daf, ble bu'n rhaid achub 48 o bobl o safle cartrefi ar gyfer pobl wedi ymddeol a rhoi lloches iddyn nhw dros dro yn Neuadd y Dreg.
Gan ddiolch i bawb am ymateb mor gyflym, dywedodd y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, Craig Flannery y byddai criwiau'n parhau i weithio'n galed "a chydweithio ar yr hyn sy'n debygol o fod yn ymdrech adfer heriol".

Bu'n rhaid symud degau o bobl o'u cartrefi yn ystod y nos, nos Fawrth yn Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gaerfyrddin
Bu'n rhaid i nifer o ysgolion Sir Gaerfyrddin gau ddydd Mercher, gan gynnwys Ysgol Bro Myrddin, Lacharn, Llanmilo, Tre Ioan ac Ysgol Dyffryn Taf yn Hendy-gwyn ar Daf.
Roedd hynny wedi'r glaw trwm a syrthiodd tra bod rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd mewn grym yn ne a gorllewin Cymru rhwng 12:00 dydd Mawrth a 08:00 fore Mercher.
Nos Fawrth dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Penfro fod llawer o ffyrdd ar gau a bod criwiau tân wedi gorfod achub sawl gyrrwr o'u cerbydau.
Cafodd amodau ar ffyrdd yn siroedd Penfro, Caerfyrddin, Ceredigion a Phowys eu disgrifio fel rhai peryglus mewn mannau, a bu'n rhaid cau'r A483 yng Nghwmbwrla, Abertawe rhwng y gylchfan a Rhodfa Gors.
Doedd dim trenau'n teithio rhwng Hendy-gwyn a Chaerfyrddin na thrwy Bontarddulais.
Mae tirlithriad hefyd wedi achosi difrod sylweddol i lwybr seiclo rhwng Y Tymbl a Phontyberem.

Mae tirlithriad wedi achosi difrod sylweddol i lwybr seiclo rhwng Y Tymbl a Phontyberem

Cylchfan Cwmbwrla yn Abertawe dan ddŵr fore Mercher
Roedd pryder dros les 30 o gŵn mewn lloches cŵn yn ardal Trimsaran yn Sir Gaerfyrddin oherwydd llifogydd difrifol.
Dywedodd Alison Clark o loches cŵn Glanrhyd eu bod wedi "colli popeth" pan ddaeth y llifogydd nos Fawrth.
Fe gafodd naw ci eu hachub gan y gwasanaethau brys ond roedd gweddill y cŵn yn dal yn sownd yn yr eiddo.

Bu'n bosib i achub naw o'r cŵn o'r ganolfan yn ardal Trimsaran

Roedd pont Llechryd yng Ngheredigion dan ddŵr yn llwyr
Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Darren Price, bod nos Fawrth "yn noson digon anodd yma yn Sir Gaerfyrddin".
Bu timau cymorth "mas trwy'r nos yn cefnogi'r gwasanaethau brys" gan symud trigolion mewn rhai achosion.
"Mae gymaint o ardaloedd wedi cael eu heffeithio", meddai, "ond mae'r ochr orllewinol wedi'i chael hi'n wael iawn".
Cafodd canolfan gorffwys ei sefydlu yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddinwrth i'r cyngor "gefnogi gymaint â ni'n gallu".

Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin bod sawl ardal wedi ei chael hi'n wael ond yn enwedig ochr orllewinol y sir
Dywedodd Vicky Sheffield o dafarn The Gatehouse yng Nghwmbwrla, fod y llifogydd yn "waeth" nag yr oeddent chwe wythnos yn ôl.
"Mewn 26 mlynedd nid yw hyn erioed wedi digwydd o'r blaen ac mae bellach wedi digwydd ddwywaith mewn chwe wythnos. Mae'n eithaf brawychus."
Dywedodd Cyngor Abertawe eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i wella'r sefyllfa o gwmpas cylchfan Cwmbwrla.
"Mae'r cylfat o dan glwb Cwmfelin yn dal i fod wedi blocio a dyma yw'r brif broblem," medd llefarydd.
"Yn y cyfamser, rydym wedi dod ag offer pwmpio i mewn i gynorthwyo llif y dŵr.
"Fodd bynnag, mae glaw trwm a pharhaus yn golygu efallai bod gormod o ddŵr i'r offer pwmpio ac efallai y bydd yn rhaid cau'r ffordd nes bod y gwaith trwsio wedi digwydd.
"Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ailagor y ffordd cyn gynted â phosibl."

Dyffryn Tywi dan ddŵr ddydd Mercher
Gan ddiolch i'r gwasanaethau brys a'r awdurdodau lleol am eu hymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "ein meddyliau gyda'r rheiny y mae'r llifogydd wedi effeithio arnyn nhw".
Ychwanegodd bod gwefan CNC yn cynnig cefnogaeth ac "rydym wir yn annog unrhyw un sy'n pryderu neu wedi cael eu heffeithio gan lifogydd i ymgynghori â'r gefnogaeth hon".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.