Network Rail: Datganoli i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae Network Rail i greu adran ar wahân i wasanaethu Cymru gan sicrhau bod penderfyniadau am gledrau a gorsafoedd yn cael eu gwneud yn fwy lleol.
Mae'r penderfyniad yn dilyn adroddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig oedd yn argymell y dylid datganoli'r gwasanaeth i gynyddu effeithlonrwydd.
Yn ogystal mae Network Rail yn bwriadu lleihau tagfeydd yng Nghaerdydd a Chymoedd y De dros y pum mlynedd nesaf.
Dywedodd yr Athro Stuart Cole o Brifysgol Morgannwg fod y newyddion yn "gam positif".
Cynyddu effeithlonrwydd
Ym mis Mai awgrymodd adroddiad am reilffyrdd Prydain gan Syr Roy McNulty y dylai Network Rail ddatganoli eu gwasanaethau fel un o nifer o fesurau i gynyddu effeithlonrwydd.
Mae'r cwmni di-elw sy'n rheoli rhwydwaith mewnol rheilffyrdd Prydain wedi ymateb drwy rannu eu gweithgareddau i unedau busnes unigol.
Dywed Network Rail y bydd rhwydwaith rheilffyrdd Cymru yn cael eu rheoli gan uned fusnes unigol am y tro cyntaf.
Mae'r cwmni'n honni y bydd yr uned Gymreig yn gallu gwneud penderfyniadau cyllido annibynnol i ateb gofynion cwsmeriaid a theithwyr a darparu gwasanaeth fydd yn fwy fforddiadwy.
Mae Network Rail hefyd wedi addo trawsnewid rheilffyrdd Caerdydd a'r Cymoedd yn ystod y pum mlynedd nesaf.
'Blaenoriaethau'
Dywed y cwmni y bydd gwaith adfer yn lleihau tagfeydd gan eu galluogi i gynnal mwy o wasanaethau trên a pharatoi'r rhanbarth ar gyfer gwasanaeth trydanol.
Dywedodd Stuart Cole, Athro Trafnidiaeth ym Mhrifysgol Morgannwg, fod y newidiadau yn 'gam positif' oherwydd bydd blaenoriaethau yn cael eu penderfynu yng Nghaerdydd yn hytrach na Llundain.
"Os yw pobl am orsafoedd mwy taclus neu fwy o oleuadau fe fydd y blaenoriaethau yn cael eu penderfynu man hyn," meddai.
"Fe fyddwn ni'n gwybod beth fydd ein cyllid o hyn ymlaen ac fe fydd hyn yn ein galluogi i ddadlau y dylai ein cyllid fod mewn cyfrannedd a chyllidau rhanbarthau Lloegr."
Ychwanegodd Yr Athro Cole y byddai penderfyniadau yn cael eu gwneud gan Network Rail Cymru, Llywodraeth Cymru, a chwmni Arriva, sy'n gweithredu'r fasnachfraint rheilffyrdd yng Nghymru.