Alcohol: Gofyn am fwy o reolau
- Cyhoeddwyd
Dywed elusen fod arolwg diweddar yn awgrymu fod mwyafrif pendant o bobl ifanc o blaid rheolau mwy llym ar hysbysebion alcohol.
Yn ôl Alcohol Concern cafodd mwy na 2,300 o blant a phobl ifanc eu holi ar gyfer yr arolwg.
Dywed yr elusen y byddant yn ymgyrchu am fesurau i ddiogelu plant a phobl ifanc rhag "gweld a chlywed marchnata alcohol."
Roedd 60% o'r rhai a holwyd am weld hysbysebion alcohol mewn sinemâu yn cael eu cyfyngu i ffilmiau gyda thystysgrif 18 yn unig.
Dywedodd 58% eu bod am weld hysbysebion alcohol yn cael eu gwahardd ar y teledu cyn 9pm.
Dywed Rheolwr Alcohol Concern Cymru, Andrew Misell fod angen i oedolion ystyried sut mae arferion yfed yn effeithio ar blant a phobl ifanc.
"Mae'n rhaid i'r diwydiant diodydd dderbyn ei gyfrifoldebau hefyd," meddai.
"Er bod cyfreithiau hysbysebu alcohol y Deyrnas Unedig yn gwahardd targedu plant, mae hysbysebion alcohol o'n cwmpas ym mhobman, sy'n ei gwneud hi'n amhosibl gwarchod plant rhagddyn nhw.
"Mae hyn yn arbennig o wir pan fo cymaint o farchnata'r diwydiant diodydd yn gysylltiedig â diddordebau pobl ifanc, fel pêl-droed, gigiau a gwyliau cerddoriaeth."