Cymdeithas y BMA yn galw am wahardd ysmygu mewn ceir preifat

  • Cyhoeddwyd
Ysmygu mewn carFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu lansio ymgyrch genedlaethol i daclo effaith ysmygu ail-law

Mae Cymdeithas Feddygol y BMA yn dweud y dylai ysmygu mewn ceir fod yn anghyfreithlon.

Dywed bod tystiolaeth wyddonol yn cefnogi'r alwad i wahardd ysmygu mewn cerbydau.

Mae'r gymdeithas yn galw ar lywodraethau'r DU i gyflwyno estyniad i'r ddeddf bresennol i gynnwys gwahardd ysmygu mewn cerbydau preifat.

Daw hyn ar ôl galwad debyg gan Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell.

Ym mis Gorffennaf fe wnaeth Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, gyhoeddi y byddai Llywodraeth Cymru yn lansio ymgyrch genedlaethol am y tair blynedd nesaf i daclo effaith ysmygu 'ail-law' yng Nghymru.

Ystyried deddfu

Penderfyniad i Aelodau'r Cynulliad fydd cyflwyno gwaharddiad.

Ar hyn o bryd maen nhw'n ceisio mynd i'r afael â'r broblem gydag ymgyrch i dynnu sylw at y peryglon posib.

Os na fydd hynny'n llwyddo yna fe allai deddfwriaeth i atal ysmygu mewn ceir sy'n cludo plant gael ei chyflwyno.

Tasai hynny'n digwydd - Cymru fyddai'r wlad gynta' yn Ewrop i gyflwyno gwaharddiad o'r fath.

"Fe fydd hyn yn canolbwyntio yn gryf ar warchod plant rhag wynebu mwg ail-law mewn cerbydau preifat gan eu bod yn fregus i effaith ysmygu ac yn methu dianc oddi wrth fwg ail-law," meddai llefarydd ar ran y llywodraeth.

"Maen nhw'n fwy tebygol o ddatblygu cyflyrau hirdymor fel asthma.

"Fe fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried opsiynau i ddeddfu os na fydd yr ystadegau yn ystod y tair blynedd nesaf yn dechrau gostwng ymhlith plant sy'n dod i gysylltiad â mwg ail-law ar sail ymchwil cyhoeddus.

"Mae 'na bryder hefyd am nifer yr oedolion sy'n dod i gysylltiad â mwg ail-law.

"Drwy hybu ceir di-fwg i warchod plant, fe fydd hefyd yn gymorth i godi ymwybyddiaeth bod ysmygu mewn ceir yn gallu cael effaith ar iechyd oedolion hefyd.

"Fe fydd Llywodraeth Cymru'n comisiynu ymchwil yn gyson yn ystod y tair blynedd nesaf i werthuso'r newid yn agwedd oedolion sy'n ysmygu gan arwain at oedolion a phlant eraill yn anadlu mwg ail-law mewn cerbydau."

Yn ôl ymchwil gan y BMA, mae 'na dystiolaeth gref bod ysmygu mewn cerbydau yn caniatáu i rai sydd ddim yn ysmygu anadlu mwg ail-law mewn lleoliad cyfyng.

Llygredd

Mae'r gymdeithas yn galw ar weinidogion i gyflwyno gwaharddiad "amlwg a dewr" ar sail iechyd yn hytrach na diogelwch ffordd.

Yn ôl yr ymchwil, mae lefel y tocsin yn gallu bod 23 gwaith yn uwch mewn car na mewn tafarn fyglyd, gyda phlant a phobl mewn oed yn wynebu mwy o risg.

Mae plant yn amsugno mwy o lygredd nag oedolion ac mae eu system imiwnedd yn llai abl i ddelio gyda mwg ail-law, yn ôl y BMA.

Rhybudd y meddygon yw bod pobl hŷn yn gallu diodde' problemau anadlu sy'n gwaethygu trwy anadlu mwg sigaréts.

Mae'r gymdeithas yn pryderu mai'r math yma o bobl sy'n methu gwrthod siwrne mewn car myglyd.

"Yn flynyddol yn Lloegr, mae 'na dros 80,000 o farwolaethau o ganlyniad i ysmygu," meddai Dr Vivienne Nathanson o'r gymdeithas.

"Mae'r ffigwr yn 6 miliwn drwy'r byd.

"Ond y tu ôl i'r ystadegau hynny y mae meddygon yn gweld nifer o bobl yn diodde' o afiechydon a marwolaethau cynnar o ganlyniad i ysmygu neu anadlu mwg ail-law.

"Am y rheswm yma mae meddygon yn ymrwymedig i leihau'r niwed gan dybaco."

'Dim cyfiawnhad'

Dywedodd bod y DU wedi gwneud cam bras ymlaen yn y frwydr yn erbyn tybaco drwy wahardd ysmygu mewn lleoedd cyhoeddus ac mewn ceir cyhoeddus.

Ond dywedodd bod modd gwneud llawer mwy.

Mae'r grŵp sy'n gefnogol i ysmygwyr, Forest, yn gwrthwynebu'r gwaharddiad posib.

"Does 'na ddim cyfiawnhad dros wahardd ysmygu mewn ceir, p'un ai a oes plant yn bresennol ai peidio," meddai'r cyfarwyddwr Simon Clark.

"Mae'r dystiolaeth bod hyn yn niweidiol i eraill yn wan a dweud y lleiaf.

"Dydyn ni ddim yn condemnio ysmygu gyda phlant yn y ceir, mae'n anystyriol, ond nifer fechan sy'n gwneud hynny erbyn hyn.

"Mae gan oedolion ddewis....mae deddfu yn gam sy'n mynd yn rhy bell - be fydd nesa'? Gwahardd ysmygu yn y cartref?"

Daw'r gwaith ymchwil wrth i Ail Ddarlleniad Mesur Aelod Preifat Alex Cunningham ar wahardd ysmygu mewn cerbydau preifat pan fo plant yn bresennol gael ei drafod yn San Steffan ddydd Gwener Tachwedd 25.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol