Seremonïau i nodi adeiladu stadiwm newydd ym Mangor

  • Cyhoeddwyd
Ffordd Farrar yn 2004 (Hawlfraint: Clwb Pêl-Droed Dinas Bangor)Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae Clwb Pêl-droed Bangor wedi chwarae yn Ffordd Farrar ers y 1920au

Wedi blynyddoedd o oedi, fe fydd seremoni swyddogol i nodi'r gwaith adeiladu ar stadiwm newydd i Glwb Pêl-droed Dinas Bangor yn cael ei gynnal.

Bydd carreg sylfaen neuadd newydd i'r Seiri Rhyddion ar gyrion y ddinas yn cael ei osod ddydd Mercher hefyd.

Bydd stadiwm Ffordd Farrar a'r neuadd bresennol yn cael eu dymchwel er mwyn codi archfarchnad Asda newydd yno.

Yn ôl y datblygwyr, Watkin Jones, fe fydd y clwb yn symud o'u cartref presennol i'r safle newydd yn Nantporth ym mis Ionawr.

Mae'r clwb wedi chwarae yn Ffordd Farrar ers y 1920au.

"Fe fydd y tîm yn chwarae yno (Nantporth) yn y flwyddyn newydd gyda'r gêm olaf i'w chwarae ar Ffordd Farrar ar Ragfyr 27," meddai Dave Roberts, cyfarwyddwr y cynllun gyda'r cwmni datblygu Watkin Jones.

2012

Ffynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r clwb symud i'w cartre' newydd yn Nantporth ym mis Ionawr

"Mae'r gwaith ar Neuadd Y Seiri Rhyddion ym Mharc Menai eisoes wedi dechrau.

"Fe fydd y garreg sylfaen yn cael ei gosod yno er mwyn nodi'r gwaith adeiladu a symud o ganlyniad i ddatblygiad Ffordd Farrar."

Mae disgwyl i'r neuadd fod wedi ei chwblhau erbyn mis Mai 2012.

Ers 10 mlynedd mae'r clwb pêl-droed wedi bod yn ceisio symud.

Mae'r stadiwm newydd yn cydymffurfio â gofynion Uwchgynghrair Cymru, gyda lle i 3,000 o gefnogwyr, 600 o seddi dan do a 200 heb do.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol