Paratoadau 'annigonol' i gau ysgolion yn ystod y pandemig - Drakeford

Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Roedd paratoadau ar gyfer cau ysgolion ym Mawrth 2020 yn annigonol, yn ôl cyn-Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.

Dywedodd Mr Drakeford, a oedd yn arwain Llywodraeth Cymru yn ystod pandemig Covid-19, fod ffocws gweinidogion ar y pryd ar gadw ysgolion ar agor.

Roedd yn rhoi tystiolaeth i Ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig, sydd ar hyn o bryd yn clywed tystiolaeth am yr effaith ar blant a phobl ifanc.

Ddydd Mawrth, dywedodd cyn-Brif Weinidog y DU, Boris Johnson wrth yr ymchwiliad fod plant wedi talu "pris enfawr" wrth amddiffyn eraill yn ystod y cyfnod.

Paratoi ddim yn 'ddigonol'

Dywedodd Mark Drakeford, sydd bellach yn gyfrifol am gyllid a'r iaith Gymraeg fod cau ysgolion wedi cael ei grybwyll fel "posibilrwydd" wrth i'r bygythiad o'r feirws dyfu tua diwedd Chwefror 2020.

Ond doedd hyn ddim yn cael ei weld fel bod yn "debygol" tan 48 awr cyn y cyhoeddiad ar 18 Mawrth.

"Rydw i'n derbyn nad oedd y paratoi'n ddigonol ar gyfer yr hyn wnaethon ni orfod gwneud", meddai.

Ychwanegodd: "Roedden ni'n paratoi i ysgolion aros ar agor ac i geisio gwneud popeth y gallem i'w helpu i aros ar agor ac i wneud hynny'n ddiogel."

Disgyblion YsgolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn "derbyn" nad oedd y paratoadau'n ddigonol

Tra bod y rhan fwyaf o'r ysgolion wedi cau, roedd canolfannau ar agor i blant bregus a gweithwyr allweddol, a chafodd Mr Drakeford ei holi am y am y niferoedd isel fynychodd y canolfannau i ddechrau.

Dywedodd nad oedd y rhifau "byth mor dda a fydden ni wedi hoffi iddyn nhw fod" gan ddweud bod "ofn" y feirws yn debygol o fod ar fai.

Pan gafodd ei holi am wrthwynebiad undebau llafur i newid gwyliau'r haf yn 2020 fel y gallai disgyblion gael mwy o amser yn yr ysgol dros fisoedd yr haf, roedd yn cydnabod bod y newidiadau wedi'u cynnig ar fyr rybudd ac yn cael effaith ar gytundebau staff.

Ond dywedodd ei fod yn cyd-fynd â datganiad blaenorol bod y berthynas gyda'r undebau weithiau'n anodd ac nad oedd "buddiannau plant yn hytrach nag oedolion wastad wedi cael y pwysau y dylent".

Mark DrakefordFfynhonnell y llun, PA Media

Yn ddiweddarach dywedodd fod y materion a godwyd gan yr ymchwiliad wedi ei arwain i gredu bod "ymestyn y diwrnod ysgol a diwygio'r flwyddyn ysgol yn bethau y dylem eu gwneud tra bod gennym gyfle gwahanol i wneud hynny".

"Pe byddech chi wedi cael dull gwahanol cyn y pandemig, rwy'n credu bod rhai o'r anawsterau cytundebol a wynebwn wedi bod yn haws datrys yn ystod y pandemig," meddai.

Pan oedd yn brif weinidog, cymerodd Mark Drakeford gamau i ddiwygio'r flwyddyn ysgol, gan gynnwys ystyried gwyliau haf byrrach - polisi gafodd ei ollwng gan ei olynydd.

Sut effeithiodd y pandemig ar ysgolion Cymru?

Yn unol â gwledydd eraill y DU, cyhoeddodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg ar y pryd, ar 18 Mawrth 2020 y byddai ysgolion yng Nghymru yn cau i bob disgybl heblaw plant bregus a phlant gweithwyr allweddol.

O 29 Mehefin, dychwelodd disgyblion am rai dyddiau, cyn dychwelyd yn llawn ym mis Medi 2020.

Pan gafodd ysgolion eu cau yn Mawrth 2020, roedd cyhoeddiad hefyd bod arholiadau'r haf yn cael eu canslo.

Cafodd algorithm ei ddefnyddio i bennu graddau ond yn sgil yr ymateb ffyrnig gan ysgolion a disgyblion pan gyhoeddwyd y canlyniadau, cafodd y drefn ei ollwng gan ddefnyddio graddau athrawon yn lle.

Fe wnaeth y tarfu a chyfyngiadau llym barhau, a symudodd ysgolion i ddysgu ar-lein ym mis Rhagfyr 2020.

Arhoson nhw ar gau tan hanner tymor Chwefror 2021 pan ddechreuodd disgyblion ddychwelyd yn raddol.

Ond wnaeth disgyblion ysgol uwchradd ddim dychwelyd yn llawn nes ar ôl gwyliau'r Pasg yn Ebrill 2021.

Mae effaith y cyfnod yn parhau i'w gweld mewn ysgolion gyda phresenoldeb dal yn llawer is na chyn y pandemig, a data'r llywodraeth yn awgrymu bod safonau llythrennedd a rhifedd wedi llithro ers cyn Covid-19.