Ymchwilio i honiad fod tîm pêl-droed wedi'u 'gwawdio am siarad Cymraeg'

Tim CPD Merched Y Felinheli Ffynhonnell y llun, CPD Merched Y Felinheli
Disgrifiad o’r llun,

Mae tîm pêl-droed merched y Felinheli wedi gwneud cwyn swyddogol i'r Gymdeithas Bêl-droed

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cynnal ymchwiliad wedi i dîm merched o'r gogledd ddweud eu bod wedi cael eu gwawdio gan dîm arall am siarad Cymraeg.

Mae tîm pêl-droed merched y Felinheli wedi gwneud cwyn swyddogol i'r gymdeithas yn dilyn gêm yn erbyn tîm merched Wrexham Foresters yng Nghwpan Cymru Bute Energy ddydd Sul.

Mae'r Felinheli yn honni bod chwaraewyr, tîm hyfforddi a chefnogwyr eu gwrthwynebwyr wedi eu gwawdio drwy gydol y gêm am siarad Cymraeg, gan ailadrodd pethau, gofyn pam eu bod nhw'n trafferthu siarad Cymraeg, a dweud wrthyn nhw am siarad Saesneg.

Mae Wrexham Foresters yn dweud bod y cyhuddiadau yn ddi-sail, ac na godwyd y mater gyda nhw na swyddogion y gêm ar unrhyw bryd.

Ni wnaeth chwaraewyr na thîm hyfforddi'r Felinheli godi'r mater gyda'r clwb arall na'r dyfarnwr ar y pryd, gan ddweud mai dim ond wrth drafod ar ôl y gêm y daethon nhw i werthfawrogi'r hyn oedd wedi digwydd.

Yn ôl y chwaraewyr, maen nhw eisiau codi llais "oherwydd mae'n agwedd 'da ni'n ei weld dro ar ôl tro fel clwb".

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cael cais am ymateb.

Aaron Jones-Evans, rheolwr CPD Merched Y Felinheli Ffynhonnell y llun, CPD Merched Y Felinheli
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aaron Jones-Evans yn dweud y dylai fod wedi codi'r mater gyda'r dyfarnwr ar y pryd

Dywedodd rheolwr tîm merched y Felinheli, Aaron Jones-Evans, ei fod yn syfrdan o glywed y sylwadau.

"Dwi 'di bod yn ran o bêl-droed ers just iawn i 25 mlynedd rŵan, a doedd o ddim yn brofiad neis i fi, a dwi'n experienced, ond i'r players ifanc yn y squad, roedd o'n sioc."

Er nad oedd Mr Jones-Evans yn gallu clywed sylwadau chwaraewyr Wrexham Foresters ar y cae, roedd o'n clywed sylwadau eu chwaraewyr ar y fainc.

"Oedd pob dim o'n i'n ei weiddi ar ein players ni, tactical decisions ac ati, oedd players a coaches nhw wedyn yn ailadrodd be' o'n i'n dd'eud, yn chwerthin ac yn dweud bod o'n swnio fel gibberish - i ni fynd i ddysgu siarad Saesneg.

"Oedd o'n really upsetting i weld sut roedd y merched ar ôl y gêm, achos roedden nhw'n shell-shocked.

"Ti'm yn disgwyl cael hynna yng Nghymru, nag wyt?"

Aaron, rheolwr + rhai o'r tim Ffynhonnell y llun, CPD Merched Y Felinheli
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y merched, maen nhw wedi penderfynu codi llais am eu bod "wedi blino ar orfod anwybyddu" yr "agwedd 'da ni'n ei weld dro ar ôl tro fel clwb"

Fe waethygodd y sefyllfa yn yr ail hanner, yn ôl Aaron Jones-Evans.

"'Naeth o ddechrau dod gan y ffans hefyd, oedd o'n dod o bob cyfeiriad - gan coaches, gan players, players ar y bench, a gan y ffans.

"O'n i'n flabbergasted a deud y gwir.

"Ddos i adre y noson honno ac ro'n i'n teimlo'n ddigalon bo' fi 'di gadael y tîm lawr achos dylwn i 'di d'eud wrth y reff, 'ylwch, 'da ni ddim yn chwarae hon ddim mwy' ond hindsight is a brilliant thing yn de!

"Dwi 'rioed 'di gweld hynna yn fy mywyd, i'r fath extent wnaeth o ddigwydd."

'Can you speak English please?'

Mae chwaraewyr y Felinheli sydd wedi siarad gyda BBC Cymru Fyw yn dweud eu bod yn teimlo fod chwaraewyr y gwrthwynebwyr wedi gwneud hwyl am eu pennau am siarad Cymraeg.

Dywedon nhw hefyd fod un wedi dweud "can you speak English please?", ac maen nhw'n teimlo fod chwaraewyr Wrexham Foresters yn gwneud "jôc o'r iaith".

Dywedodd y chwaraewyr mai dim ond wedi'r gêm, wrth siarad mewn grŵp, y sylweddolon nhw ddifrifoldeb y sefyllfa.

Maen nhw'n dweud nad dyma'r tro cyntaf iddyn nhw brofi sylwadau o'r fath, a'u bod wedi cael llond bol o weld agwedd ddilornus at yr iaith.

Honiadau 'di-sail' yn ôl y Foresters

Mae cyfarwyddwr clwb y Wrexham Foresters, Adam Alfi, wedi ymateb gan ddweud: "Fel clwb Cymreig, mae'n rhaid i mi ddweud ein bod ni'n gweld yr honiadau hyn yn gwbl ddryslyd (baffling).

"Rydym yn gwrthod yr honiadau hyn yn gryf, sydd yn gwbl ddi-sail.

"Mae gan Glwb Pêl-droed Wrexham Foresters nifer o chwaraewyr a staff sy'n siarad Cymraeg ac rydym yn ymfalchïo mewn hyrwyddo parch a chynhwysiant ar bob lefel.

"Ni chodwyd unrhyw gwynion gyda ni na swyddogion y gêm ar unrhyw bryd."

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) eu bod wedi derbyn cwyn yn dilyn y gêm ddydd Sul.

"Mae CBDC yn ymchwilio i'r honiadau ac ni fyddwn yn gwneud sylw pellach tra bo'r ymchwiliad yn mynd rhagddo," meddai llefarydd.