Llywodraeth yn cyrraedd targed carbon
- Cyhoeddwyd
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi lleihau eu hallyriadau carbon o 11% mewn un flwyddyn gan basio targed 10:10.
Ond mewn cyhoeddiad gwahanol, mae Adroddiad Effeithlonrwydd Ynni a Lleihau Carbon gan Lywodraeth San Steffan yn dweud fod Llywodraeth Cymru yn rhif 320 allan o'r 2,103 o sefydliadau oedd yn rhan o'r cynllun.
Ym mis Rhagfyr 2009, cadarnhaodd y Prif Weinidog ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r ymgyrch 10:10 oedd yn gofyn i sefydliadau leihau eu hallyriadau carbon o 10% o fewn blwyddyn oedd yn dechrau yn 2010.
Mae gostyngiad o allyriadau wedi deillio o nifer o weithredoedd dros y flwyddyn ddiwethaf mewn nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys:
Defnyddio llai o adeiladau - yn ystod 2010/11 fe wnaeth Llywodraeth Cymru rhesymoliad eiddo oedd yn golygu gwagio 18 o adeiladau gan wneud cyfraniad sylweddol i leihau allyriadau;
Gwella'r Rhaglen Rheoli Carbon Isel sydd wedi arwain at leihad sylweddol yn y defnydd o adnoddau;
Lleihau'r nifer o deithiau i gyfarfodydd drwy ddefnyddio cynadledda fideo a dewisiadau eraill;
Lleihau'r nifer o gyfrifiaduron gweinyddu er mwyn cwtogi'r defnydd o garbon yn yr adran Dechnoleg Gwybodaeth.
'Llaesu dwylo'
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r mesurau yma wedi arwain at arbedion carbon o 1,643 tunnell o dan ganllawiau cynllun 10:10, sy'n cyfateb i 39,400 o deithiau mewn car o Gaerdydd i San Steffan.
Dywedodd Prif Ysgrifennydd Llywodraeth Cymru, y Fonesig Gill Morgan, bod hyn yn "gamp ardderchog".
"Mae'r canlyniad yn cydnabod ein hymrwymiad i gynaliadwyedd a'r ymdrech dros y blynyddoedd diweddar i reoli'n hallyriadau.
"Ond mae'n bwysig nad ydym yn llaesu dwylo ac yn parhau i weithio i gyrraedd targedau ein Strategaeth Newid Hinsawdd."
'Dangos y ffordd'
Dywedodd Carwyn Jones fod y llywodraeth wedi ymrwymo'n llwyr i ddatblygu cynaliadwy.
"Rhaid i ni ddangos y ffordd i eraill wrth daclo achosion a goblygiadau newid hinsawdd.
"Mae'r canlyniadau yma yn gwneud hynny, ond yn amlwg fe allwn ni, ac fe wnawn ni fwy.
"Rydym yn dal wedi ymrwymo i greu 3% yn llai o allyriadau o 2011 ymlaen yn unol â'n Strategaeth Newid Hinsawdd.
"Bydd hyn yn cefnogi'r ymdrechion ehangach i gyrraedd lleihad o 40% mewn allyriadau erbyn 2020 o'i gymharu â ffigyrau 1990."