Adroddiad: 'Methiannau asiantaethau'
- Cyhoeddwyd
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi cyhoeddi adroddiad wedi adolygiad o ddynladdiad a gyflawnwyd gan ddefnyddiwr gwasanaeth iechyd meddwl.
Ac mae'r adroddiad yn cyfeirio at fethiannau asiantaethau statudol wrth ddelio ag achos Leyton Williams cyn iddo ladd Anthony Kitely ym mis Mehefin, 2009.
Roedd gan Williams hanes o drais a phroblemau iechyd meddwl a threuliodd gyfnod yng Ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 2008.
Pan gafodd ei ryddhau oddi yno, doedd dim trefniadau i'w gyfeirio at ofal iechyd meddwl.
Yn 2010 fe'i cafwyd yn euog o ddynladdiad Anthony Kitely ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.
Mae adroddiad yr arolygiaeth wedi rhestru 15 o argymhellion o ran y gofal a'r driniaeth gafodd Williams.
Cyfnod amhenodol
Fin nos ar Fehefin 6, 2009, yn ardal Tremorfa, Caerdydd, trywanwyd dyn 39 mlwydd oed, Anthony Kitely, dolen allanol, gan Williams.
Roedd Mr Kitely yn adnabod ei ymosodwr.
Yn gynharach yr un diwrnod roedd Williams hefyd wedi ymosod ar ei fam, gan achosi anafiadau sylweddol.
Goroesodd Mrs Williams ac arestiwyd Leyton Williams y diwrnod canlynol.
Yn Llys y Goron Caerdydd ar Fehefin 14, 2010, cafwyd Williams yn euog o ddynladdiad Anthony Kitely ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll a phlediodd yn euog hefyd i gyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol bwriadol i'w fam.
Cafodd ei ddedfrydu i gyfnod amhenodol mewn uned ddiogelwch uchel dan y Ddeddf Iechyd Meddwl ac roedd cyfyngiadau arbennig ynglŷn â'i ryddhau.
Pryderon
Roedd yr adolygiad yn ymchwilio i'r gofal a'r help ddarparwyd ar gyfer Williams (Mr I yn yr adroddiad), a sut yr effeithiodd hynny ar farwolaeth Anthony Kitely.
Mae'r adolygiad wedi amlygu pryderon ynglŷn â pha mor ddigonol oedd y gofal a'r driniaeth ddarparwyd ar gyfer Mr I, gan gynnwys y canlynol:
Ar ôl iddo gael ei alw yn ôl i'r carchar ym mis Gorffennaf 2008 ni wnaeth asiantaethau iechyd a gofal cymdeithasol ymdrech gyfunol i ganfod pa garchar yr oedd Mr I wedi ei dderbyn iddo er mwyn gallu monitro ei iechyd meddwl;
Ar adeg ei dderbyn yng Ngharchar y Parc collwyd cyfleoedd i ailgyfeirio Mr I i wasanaethau iechyd meddwl;
Ni wahoddwyd Clinig Caswell na Charchar Parc i gyfarfodydd Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Diogelu'r Cyhoedd (MAPPA) i drafod gofal Mr I a'r amgylchiadau a arweiniodd at fylchau mewn gwybodaeth ac yn y ddealltwriaeth o'r risg yr oedd Mr I yn ei hachosi a'i hanghenion iechyd a gofal;
Roedd methiant o ran cyfathrebu rhwng yr holl asiantaethau yn golygu nad oedd Mr I yn derbyn gofal, triniaeth na goruchwyliaeth gan unrhyw asiantaeth statudol pan gafodd ei ryddhau o Garchar y Parc ym mis Medi 2008;
Er bod yr heddlu wedi codi pryderon ynglŷn ag iechyd meddwl Mr I yn dilyn ymweliadau i gartref ei deulu, collodd y gwasanaethau iechyd meddwl fwy o gyfleoedd i ail-ymgysylltu â Mr I.
Ceir y manylion llawn yn yr adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi ar wefan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, dolen allanol.
'Dim cyfathrebu'
Yn yr adroddiad mae 15 o argymhellion a dywedodd y Dr Peter Higson, prif weithredwr yr arolygiaeth: "Mae'n amlwg o'n hadolygiad fod gan Williams hanes o drais a salwch meddwl.
"Roedd yn anodd ymgysylltu ag ef ac roedd yn gwadu'n gyson fod ganddo broblemau iechyd meddwl, ac o ganlyniad, roedd yn annhebygol o geisio cymorth pan waethygodd ei iechyd meddwl.
"Mae'n ffaith drist fod methiant o ran cyfathrebu rhwng yr asiantaethau statudol, ac na chafodd problemau iechyd meddwl Williams eu monitro o ganlyniad ar ôl iddo gael ei ryddhau o'r carchar ym mis Medi 2008."
Wrth ymateb i'r adroddiad dywedodd teulu Anthony Kitely mewn datganiad: "Rydym yn croesawu cyhoeddi'r adroddiad a'i ganfyddiadau. Wedi darllen yr adroddiad roedd hi'n haws i ni ddeall mwy am yr hyn ddigwyddodd cyn marwolaeth gynamserol Anthony.
"Nid ydym yn beio Leyton Williams am yr hyn ddigwyddodd ond yn hytrach y sustem iechyd meddwl, gan gynnwys y cyfathrebu gwael arweiniodd at ei ryddhau.
"Mae'r penderfyniad wedi dinistrio ein bywydau ni am byth mewn nifer o ffyrdd gwahanol, o iechyd i dwf emosiynol.
"Rydym yn byw gyda'r golled enfawr gan fod Anthony wedi mynd ac yn gobeithio y bydd cyhoeddi'r adroddiad hwn yn golygu y gallwn ni ddod â'r mater i derfyn."
'Testun pryder'
Dywedodd Prif Weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, David Sissling: "Rwyf wir yn teimlo dros deuluoedd y rhai y mae'r achos difrifol a hynod drist hwn wedi effeithio arnyn nhw.
"Pan fo digwyddiadau trasig fel hyn yn digwydd, mae'n bwysig i ni gynnal ymchwiliad trylwyr er mwyn dod o hyd i unrhyw ddiffygion yn y gofal ac er mwyn sefydlu mesurau i leihau'r risg fod hyn yn digwydd eto.
"Gallai adolygiadau o'r fath ddatgelu methiannau yn lefel y gofal sydd wedi'i ddarparu ac, yn yr achos cymhleth hwn, cafwyd sawl canfyddiad allweddol a fu'n destun pryder.
"Byddaf yn disgwyl i'r byrddau iechyd lleol perthnasol gydweithio ac, ynghyd â phartneriaid eraill, gymryd camau priodol a dysgu o'r achos trasig hwn.
"Byddwn hefyd yn ystyried a allai fod angen ystyried camau gweithredu yn genedlaethol.
"Ar ran y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, hoffwn ymddiheuro'n ddiffuant i bob un sydd wedi dioddef oherwydd y drasiedi hon."
'Camau gweithredu'
Dywedodd Dr Chris Jones, Cyfarwyddwr Meddygol y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru: "Er na ellir cael gwared ar risg yn llwyr, mae'n hollbwysig i ni wneud ein gorau glas i wneud y risg yn llai.
"Trwy drugaredd, anaml iawn y mae pethau fel hyn yn digwydd ac mae unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl yn llawer mwy tebygol o beri niwed iddyn nhw eu hunain nag i eraill.
"Mae cyrff lleol wedi sefydlu camau gweithredu i fynd i'r afael ag argymhellion yr adroddiad, a bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd hyn gyda hwy."