Chwilio am Ddysgwr y Flwyddyn 2012
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwaith wedi cychwyn i ganfod enillydd un o brif gystadlaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Yn flynyddol caiff dysgwyr Cymraeg eu hanrhydeddu am eu camp yn dysgu'r iaith.
Fe fydd yr Eisteddfod yn 2012 yn cael ei chynnal ym Mro Morgannwg ac mae'r chwilio eisoes wedi cychwyn.
Dywedodd yr Eisteddfod bod y gystadleuaeth yn gyfle "i ddathlu cyfraniad dysgwyr i'r iaith, i'n cymunedau ac i Gymru gyfan".
Mae nifer yn cystadlu yn y gystadleuaeth gafodd ei hennill yn Wrecsam eleni gan Kay Holder o Fro Morgannwg.
Ar y pryd dywedodd bod yr Eisteddfod wedi newid ei bywyd gan mai wedi ymweliad â'r brifwyl y dechreuodd ddysgu'r iaith.
"Heb fod wedi mynd i'r Eisteddfod fyddwn i ddim yn ymwybodol bod y Gymraeg yn iaith fyw.
"Un rheswm dros ddychwelyd o Gaint i Fro Morgannwg oedd cael cymaint o bobl a phosib ar y Maes yn Llandŵ y flwyddyn nesa yn siarad Cymraeg.
"Hefyd hoffwn weld pobl yn dal i siarad y Gymraeg ym Mro Morgannwg."
Dathlu cyfraniad
Mae'r gystadleuaeth yn un o brif wobrau'r Brifwyl.
"Dyma gychwyn eto ar y gwaith o ddarganfod y person sydd wedi disgleirio wrth ddysgu Cymraeg," meddai Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod.
"Dros y blynyddoedd, rydym wedi gweld cystadlu brwd gan ddysgwyr ardderchog, ac rwy'n sicr y bydd y safon yn arbennig o uchel yn 2012.
"Mae hon yn gystadleuaeth bwysig iawn, nid yn unig er mwyn codi proffil a dathlu cyfraniad dysgwyr, ond hefyd fel ffordd o ddatblygu hunan hyder unigolion sy'n dysgu Cymraeg."
Mae'r Eisteddfod wedi cynhyrchu llyfryn bychan o'r enw Beth Amdani, sy'n cynnwys gwybodaeth am bob cystadleuaeth i ddysgwyr yn yr Eisteddfod.
Mae'r llyfrynnau ar gael drwy'r Eisteddfod mewn cydweithrediad â Chanolfannau Cymraeg i Oedolion.
Mae Tlws Dysgwr y Flwyddyn yn rhoddedig gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg, Prifysgol Caerdydd, a'r wobr o £300 yn rhoddedig gan Gronfa Gwynfor, Y Barri.
Bydd y tri chystadleuydd arall yn y rownd derfynol yn derbyn £100 yr un gan Gronfa Gwynfor, a thlws yr un gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg, Prifysgol Caerdydd.
Dyddiad cau'r gystadleuaeth yw Mawrth 31 2012.
Dydi'r Eisteddfod Genedlaethol ddim wedi ymweld â Bro Morgannwg ers 1968.
Fe fydd y Brifwyl yn cael ei chynnal ar dir hen faes awyr Llandŵ rhwng Awst 4-11 2012.