Arolwg cyflymder i bentref ar yr A470 ar ôl cyfres o ddamweiniau

Arwydd pentref Talerddig sydd yn gofyn yn gwrtais i yrrwyr fod yn ofalus.
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr yn y pentref eisiau gweld y rhan yma o'r A470 yn cael gostyngiad cyflymder o 60 i 40mya

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl sy'n byw mewn pentref ar yr A470 ym Mhowys yn ymgyrchu i ostwng y terfyn cyflymder gyrru ar ôl i gyfres o ddamweiniau ddifrodi eu cartrefi.

Yn ôl un sy'n byw yn Nhalerddig, mae dwy ddamwain ddifrifol wedi bod yn ystod y 18 mis diwethaf, gydag un ohonynt wedi difrodi wal ei thŷ.

Mae Betty Norbury, sy'n byw mewn tŷ sydd wedi ei leoli ar dro yn yr A470, ar ei gwyliadwriaeth.

Mae hi a thrigolion eraill y pentref yn galw am ostyngiad yn y terfyn o 60 i 40mya.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd arolwg cyflymder yn dechrau yn Nhalerddig "yn yr wythnosau nesaf".

Disgrifiad,

Dyma un o sawl damwain i ddigwydd yn y pentref dros y blynyddoedd diwethaf

Ar ôl prynu'r tŷ, clywodd Ms Norbury gan ei chymdogion fod wyth damwain wedi bod y tu allan i'r tŷ yn y 15 mlynedd cyn hynny.

Cafodd cais rhyddid gwybodaeth ei anfon at Heddlu Dyfed-Powys, gan Betty Norbury, yn gofyn am nifer a natur y damweiniau ar y gyffordd hon o'r A470, yn ogystal â 100 llath ar y naill ochr iddi.

Mewn ymateb, dywedodd yr heddlu y byddai'n rhaid adolygu 212 o gofnodion ers 2017, ac y byddai'r gost o gydymffurfio â'r cais yn fwy na'r terfyn priodol.

Mae pobl Talerddig hefyd yn dweud nad oes arwydd cyflymder ar y ffordd fach categori C sy'n rhedeg trwy'r pentref, a bod cerbydau'n aml yn gyrru ar gyflymder o 60mya arni ar ôl gadael yr A470.

Maen nhw'n cwestiynu pam na chafodd y rhan o'r C2018 sy'n mynd heibio eu cartrefi ei ddynodi yn ardal 20mya, pan gafodd y mwyafrif o ffyrdd pentrefol Cymru eu newid i hynny ym Medi 2023.

Dynes yn gwisgo cardigan frown dros grys gwyn yn sefyll o flaen ei chartref yn Nhalerddig.
Disgrifiad o’r llun,

"Rydyn ni'n cael ein hanwybyddu dro ar ôl tro," meddai Betty Norbury

Yn ôl Ms Norbury, mae wedi ysgrifennu at Gyngor Powys, Llywodraeth Cymru a Heddlu Dyfed-Powys gyda'i phryderon.

"Mae angen cyfyngiadau traffig difrifol ar y ffordd yma," meddai

"Dyw pobl ddim yn teimlo bod angen iddyn nhw arafu i fynd ymlaen i'r ffordd fach.

"Rwy'n credu y dylid lleihau'r cyflymder ar yr A470, yn y rhan yma, o 60 i 40mya, ond dyw Llywodraeth Cymru a Chyngor Powys yn cymryd dim sylw.

"Rydyn ni'n cael ein hanwybyddu dro ar ôl tro.

"Rydw i wedi gosod casgenni, fel rhwystrau o flaen fy nhŷ, i geisio lleihau effaith y cerbyd nesaf sy'n ei daro.

"Dwi wedi goleuo'r tŷ hefyd. Rwy'n gwneud gwaith y cyngor drostyn nhw."

Car wedi taro cartref yn NhalerddigFfynhonnell y llun, Betty Norbury
Disgrifiad o’r llun,

Y llynedd fe wnaeth gyrrwr golli rheolaeth a tharo cartref Betty Norbury

Mae pryder hefyd am ddiogelwch plant ysgol sy'n gorfod cerdded ar hyd yr A470 lle nad oes pafin i gyrraedd eu cartrefi.

"Mae 'na lot o ddamweiniau yn digwydd," meddai Heledd, sy'n 16 oed.

"Mae pobl yn gyrru. Ti'n meddwl weithiau bod rhaid camu 'nôl neu byddan nhw wedi taro ni.

"Os oes 'na gerbyd yn pasio, 'na i dynnu i fewn i'r ochr.

"Mae rhai yn mynd yn ddigon gofalgar ac yn tynnu allan i fynd heibio ni, ond mae 'na rai eraill sydd yn pasio heibio ti mor gyflym."

Merch gyda gwallt coch cyrliog a sbectol ddu yn sefyll o flaen gwrych gyda'r ffordd brysur y tu cefn iddi.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heledd yn cerdded rhan beryglus o'r A470 ar ei ffordd adref o'r ysgol

Mae trigolion y pentref wedi bod yn ceisio newid y terfyn cyflymder gyrru yma ers o leiaf 2009.

Maen nhw'n ofni y bydd yn rhaid i rywun farw cyn bod newidiadau yn cael eu cyflwyno.

Dywedodd Pennant Jones, sy'n aelod o Gyngor Bro Llanbrynmair: "Er mwyn lleihau cyflymder gyrru ym mhentref Talerddig i 30mya mae'n rhaid cael tair lamp yn goleuo'r pentref, a dim ond dwy sydd yma.

"Mae'n broses araf a rhwystredig iawn.

"Rydyn ni'n gwybod bod damweiniau yn digwydd, a rhai o'r damweiniau yna yn rhai go ddifrifol hefyd."

Damwain yn NhalerddigFfynhonnell y llun, Peter Lamb
Disgrifiad o’r llun,

Mewn damwain arall yn y pentref aeth car i mewn i rwystr diogelwch

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "yn gweithio gyda Chyngor Sir Powys i gynnal arolwg cyflymder ar yr A470".

"Bydd yr arolwg yn dechrau yn yr wythnosau nesaf ac yn helpu i benderfynu a oes angen lleihau'r terfyn cyflymder."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys: "Nid yw'r ffordd trwy Talerddig yn ffordd gyfyngedig ac felly ni chafodd ei heffeithio gan newid deddfwriaethol Llywodraeth Cymru o 20mya.

"O ystyried natur y ffordd C hon, mae'n annhebygol y bydd cyflymder cerbydau'n ormodol."

Ychwanegodd fod data'r cyngor yn awgrymu fod 85% o yrwyr yn gyrru ar gyflymder o 21mya neu lai ar y ffordd.

"Felly, nid yw cyflwyno terfyn 20mya yma yn debygol o gael unrhyw effaith ar gyflymderau gan eu bod eisoes yn cael eu rheoli'n addas gan siâp y ffordd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig