Bywyd yn 'uffern' i deuluoedd rhai fu farw ar daith padlfyrddio

Roedd Oscar yn saith oed a Ffion yn ddwy adeg marwolaeth eu mam Nicola yn 2021
- Cyhoeddwyd
Yn ôl Darren Wheatley mae'r foment y bu'n rhaid iddo ddweud wrth ei fab saith oed bod ei fam wedi marw yn rhywbeth fydd yn aros gydag ef am weddill ei oes.
Roedd Nicola Wheatley, 40, yn un o bedwar padlfyrddiwr a gafodd eu lladd yn ystod taith ar Afon Cleddau yn Hwlffordd ar 30 Hydref 2021.
Cafodd perchennog y cwmni oedd yn gyfrifol am y daith, Nerys Bethan Lloyd, ei charcharu am 10 mlynedd a chwe mis yn gynharach eleni.
Yn siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf ers y digwyddiad, mae teuluoedd rhai o'r dioddefwyr yn galw am reolau llymach i bobl sy'n arwain teithiau padlfyrddio.
Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn dweud eu bod yn "ystyried amgylchiadau'r digwyddiad ar gyfer rheoleiddio yn y dyfodol".

O'r chwith uchaf gyda'r cloc: Paul O'Dwyer, Morgan Rogers, Andrea Powell a Nicola Wheatley
Dywedodd Darren y bydd "byth yn anghofio wyneb" ei fab Oscar, ar ôl i'r tad orfod adnabod corff ei wraig yn Ysbyty Llwynhelyg.
Oriau'n ddiweddarach ym Merthyr Tudful cafodd Teresa Hall wybod gan yr heddlu eu bod nhw'n credu bod ei hunig ferch, Morgan Rogers, 24, hefyd wedi ei lladd.
Roedd rhaid iddi aros tan y diwrnod canlynol er mwyn adnabod ei chorff.
Hefyd yn siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf, dywedodd Teresa: "Dwi'n cofio mynd draw ati a'i hysgwyd, yn trio'i deffro hi.
"Sut allai hyn fod wedi digwydd?"
Carcharu cyn-heddwas ar ôl i bedwar farw ar daith padlfyrddio
- Cyhoeddwyd23 Ebrill
Teuluoedd pedwar fu farw yn beirniadu perchennog cwmni padlfyrddio
- Cyhoeddwyd22 Ebrill
Perchennog cwmni trychineb padlfyrddio wedi'i diswyddo o'r heddlu
- Cyhoeddwyd30 Ebrill
Bu farw Paul O'Dwyer, 42 - cyn-filwr a thad i dri o blant - y diwrnod hwnnw hefyd.
Wythnos yn ddiweddarach, ar 5 Tachwedd, bu farw Andrea Powell o Ben-y-bont ar Ogwr yn Ysbyty Llwynhelyg.

Mae Teresa Hall bellach yn gofalu am gi Morgan, Peaches
"Dwi'n mynd dros ein sgwrs olaf drosodd a throsodd," meddai Teresa trwy ei dagrau.
"Dwi'n difaru peidio dweud wrthi am beidio â mynd. Nes i ddweud wrthi am fwynhau a nes i roi cwtsh iddi.
"Ro'n i'n gwneud cinio ar y dydd Sul a dywedais wrthi am bigo ffa lan ar ei ffordd adref.
"Roeddwn i'n meddwl y byddai hi'n ddiogel. Roedd hi'n mynd gyda chwmni ag enw da, ond dyma oedd camgymeriad mwyaf ei bywyd."
'Wyt ti wir yn mynd ar y dŵr?'
Dywedodd Darren fod Nicola wedi bod yn gyffrous am fynd ar y daith, a gafodd ei threfnu gan gwmni'r cyn-heddwas Nerys Lloyd - Salty Dog Co Ltd.
Wythnosau ynghynt fe brynodd Darren a'i rhieni badlfwrdd i Nicola ar gyfer ei phen-blwydd yn 40.
Ar ôl treulio'r nos Wener mewn tŷ yn Ninbych-y-pysgod gyda gweddill y grŵp, ffoniodd Nicola ei gŵr yn gynnar fore Sadwrn gan fod eu mab wedi bod yn sâl dros nos.
"Roedd y tywydd yn ofnadwy a dywedais wrth Nicola 'wyt ti wir yn mynd ar y dŵr?'
"Dywedodd hi: 'Maen nhw wedi dweud bod hi'n ddiogel.'
"Geiriau olaf Nicola ar y ffôn oedd 'gofala am fy machgen bach'... a dyna'r tro olaf i fi siarad â hi."

"Yr unig beth oedd Nicola eisiau oedd bod yn fam," meddai ei gŵr
Tridiau wedi angladd Nicola, trodd ei merch Ffion yn dair oed.
Mae Darren Wheatley yn disgrifio ei phen-blwydd fel "uffern".
Dywedodd ei fod wedi "chwalu" ac wedi gorfod symud i mewn gyda'i rieni i gael cefnogaeth.
Yna, wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y Nadolig cyntaf ers colli eu hanwyliaid, dywedodd Darren a Teresa fod gweld lluniau ar gyfryngau cymdeithasol o Lloyd yn mwynhau ei hun wedi rhwbio halen yn y briw.
'Nicola wedi colli allan ar gymaint'
"Fe gawson ni Nadolig gwaethaf fy mywyd," meddai Darren.
"Roedd gen i blant yn crio, yn galaru ac eisiau i'w mam fod yno ar gyfer bore'r Nadolig."
Mae Darren wedi ymddeol yn gynnar o'r gwaith er mwyn gallu canolbwyntio ar ei blant.
Mae'n drist iddo wybod bod Nicola wedi colli allan ar weld eu plant yn tyfu i fyny.
"Chafodd hi ddim gweld Ffion yn dechrau yn yr ysgol feithrin ac mae poen hynny'n ofnadwy," meddai.
"Ond mae'n rhaid i mi gario 'mlaen."

Nerys Bethan Lloyd oedd perchennog cwmni Salty Dog oedd yn rhedeg y daith
Yn 2022, fe wnaeth adroddiad feirniadu'r ffordd y cafodd y daith ei threfnu.
Fe wnaeth arolygydd y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) ddweud bod y digwyddiad yn "drasig", ond yn un roedd modd ei osgoi.
Yn ystod gwrandawiad dedfrydu Lloyd ym mis Ebrill, clywodd y llys nad oedd hi na Mr O'Dwyer "yn gymwys o bell ffordd" i gynnal teithiau o'r fath, gan mai dim ond "cymhwyster lefel mynediad sylfaenol" oedd ganddyn nhw.
Nid oedd yr asesiadau risg cywir wedi'u gwneud, a doedd gan y grŵp ddim yr offer cywir chwaith.
Y dedfrydu 'fel syrcas'
Plediodd Lloyd yn euog i ddynladdiad drwy esgeulustod dybryd, a'i dedfrydu i 10 mlynedd a hanner yn y carchar ym mis Ebrill.
Wrth gofio nôl i ddiwrnod y dedfrydu, dywedodd Darren: "Daeth hi gyda chriw o bobl - cefnogwyr.
"Roedd y fenyw yma newydd ddinistrio pedwar teulu ac roedd hi'n dal i ymddwyn fel pe bai dim wedi digwydd."
Ychwanegodd Teresa: "Fe drodd hi fe mewn i syrcas."

Roedd naw o bobl ar y daith pan aeth pedwar ohonynt i drafferthion ar y gored yma, y tu allan i neuadd y sir yn Hwlffordd
Tra bod Darren a Teresa yn meddwl mai Lloyd sydd yn llwyr ar fai am farwolaethau eu hanwyliaid, maen nhw hefyd eisiau gweld rheolau llymach ynglŷn â phwy sy'n gallu gwerthu padlfyrddau, yn ogystal â'r cymwysterau sydd eu hangen ar hyfforddwyr.
"Pam na ddywedodd hi wrth y grŵp fod yna gored?" meddai Darren.
"Rwy'n sicr na fyddai Nicola wedi mynd ar y dŵr os byddai hi wedi gwybod… dwyt ti ddim yn mynd dros gored ar badlfwrdd."
Dywedodd Teresa bod ei "gwaed yn berwi" wrth weld padlfyrddau ar werth mewn archfarchnadoedd.
"Ie, maen nhw'n lot o hwyl - roedd Morgan yn dwlu arnyn nhw," meddai.
"Ond ti'n prynu nhw o le sydd â dim syniad am eu diogelwch, a maen nhw mor rhad.
"Dylen nhw gael eu gwerthu mewn siop chwaraeon gyda rhywun all siarad am ddiogelwch y bwrdd."

"Dyw'r rheolau fel maen nhw ddim digon llym," meddai Eirian Reynolds
Yn ôl Eirian Reynolds, cyn-ymgynghorydd iechyd a diogelwch, "dylai'r daith byth fod wedi cymryd lle".
"Mae'n eironig, ond pe byddai'r bobl hyn dan 18 byddai Nerys Lloyd wedi gorfod cael trwydded i arwain y fath daith.
"Ond yn anffodus dyw'r rheolau fel maen nhw ddim digon llym.
"Pan maen nhw dan 18 mae'r bobl sy'n arwain teithiau fel hyn yn cael eu hasesu gan arbenigwyr sy'n gweithio ar secondiad i'r gweithgor iechyd a diogelwch."
Mewn ymateb i sylwadau Teresa Hall a Darren Wheatley fe ddywedodd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch eu bod "yn ystyried amgylchiadau'r digwyddiad ac unrhyw oblygiadau ar gyfer rheoleiddio yn y dyfodol".
Dywedodd corff Paddle UK - sy'n cynrychioli'r gamp o badlfyrddio - eu bod yn "cydweithio â manwerthwyr a gweithgynhyrchwyr i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch, a sicrhau bod negeseuon yn cael eu darparu'n gyson i ddefnyddwyr yn y man gwerthu."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.