Brenhines ein Llên ar y we

  • Cyhoeddwyd
Cae'r GorsFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Canolfan Kate Roberts ei hagor yn 2007

Mae adnoddau yn ymwneud â hanes bywyd "brenhines llenyddiaeth Cymru" Kate Roberts yn cael eu digideiddio a'u rhoi ar-lein.

Daw hyn wedi cydweithio rhwng Canolfan Dreftadaeth Cae'r Gors a Diane Jones, myfyrwraig ôl-raddedig o Brifysgol Bangor, o dan ysgoloriaeth KESS (sgiliau ar gyfer yr economi wybodaeth).

Agorwyd Cae'r Gors yn Rhosgadfan, Gwynedd, sy'n ganolfan hanes a threftadaeth, yn 2007 fwy na 40 mlynedd ers i'r llenor ei adael i'r genedl.

Wedi ei marwolaeth derbyniodd Gronfa Deyrnged Kate Roberts, a brynodd Cae'r Gors yn 1967, nifer fawr o roddion, a roddwyd gan y gymuned leol a theulu Kate Roberts.

Mae'r rhoddion, sy'n cynnwys llythyrau, arteffactau, gwrthrychau cartref a dillad a oedd yn perthyn i Kate Roberts yn ystod ei hoes, bellach wedi'u digideiddio a'u cyhoeddi ar-lein.

Mae'r tîm yng Nghae'r Gors o'r farn fod catalogio'r eitemau hyn wedi eu galluogi i ddatblygu profiad yr ymwelydd i'r tŷ a'r ardd.

'Profiad arbennig'

Dywedodd Diane Jones, sy'n enedigol o Ddyffryn Nantlle: "Mae ychydig o'r archif eisoes ar gael ar-lein, ond mae gennym lawer o waith i'w wneud. Byddaf yn gweithio ar y prosiect am ddwy flynedd arall fel rhan o fy mhrosiect ymchwil yn Ysgol y Gymraeg.

Dr Kate RobertsFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Treuliodd Dr Kate Roberts ei phlentyndod yn Rhosgadfan

"Ar hyn o bryd rwy'n gweithio ar yr archif ddigidol, ond rwyf hefyd yn y broses o wneud ffilm fer am waith yr awdures. Bydd hyn yn cyfuno fy mhrosiect ymchwil â'r gwaith dwi'n ei wneud yng Nghae'r Gors.

"Mae bod yn rhan o brosiect o'r fath yn brofiad arbennig iawn, fwy fyth oherwydd fy nghysylltiad lleol. Mae angen i ni wneud y gorau o'n eiconau llenyddol yma yng Nghymru - mae Kate Roberts yn haeddu cymaint o sylw â Jane Austen."

'Gwella ein hadnoddau'

Dywedodd Dawn Smith o Gae'r Gors: "Mae bod yn rhan o'r prosiect hwn wedi bod yn brofiad gwerthfawr ac rydym yn ddiolchgar i Brifysgol Bangor am y cyfle.

"Mae gan y Ganolfan gysylltiad â'r Brifysgol, gan i Kate Roberts ei hun raddio gydag anrhydedd o'r Brifysgol yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif.

"Mae cael Diane yn gweithio yma wedi ein galluogi i wella ein hadnoddau yn y Ganolfan, ni fyddai wedi bod yn bosib gwneud hyn fel arall.

"Mae Diane yn y broses o greu archif ar-lein ar gyfer ein gwefan newydd sy'n golygu bod unrhyw un, mewn unrhyw le yn cael mynediad i wybodaeth am Kate Roberts a Chae'r Gors. "

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol