Noson wych i'r Scarlets a'r Gleision
- Cyhoeddwyd

Liam Williams sgoriodd gais gynta'r Scarlets
Seintiau Northampton 23 Scarlets 28
Enillodd y Scarlets eu hail gêm o'r bron yn grŵp A Cwpan Heineken gan sgorio pedair cais ac ennill pwynt bonws wrth iddynt guro Seintiau Northampton yng Ngerddi Franklin nos Wener.
Cafodd tîm Nigel Davies ddechrau arbennig i'r gêm pan sgoriodd y cefnwr Liam Williams gais gynta'r ornest ar ôl dim ond tair munud cyn i Rhys Priestland llwyddo gyda'r trosiad.
Ond Northampton a reolodd y gêm am yr ugain munud nesaf cyn i Ryan Lamb lwyddo gyda chic gosb.
Ond yn syth ar ôl i'r gêm ail ddechrau sgoriodd y Scarlets eu hail gais wedi ar ôl 22 munud o'r ornest er i gefnogwyr Northampton feddwl bod y bêl wedi cael ei fwrw ymlaen cyn i Aaron Shingler groesi'r llinell gan roi'r cyfle i Priestland lwyddo gyda'i ail drosiad.
Yn fuan wedi hynny llwyddodd Lamb i gicio'i ail gic cosb i gau'r bwlch rhwng y ddau dîm i wyth pwynt.
Ond sgoriodd George North toc cyn yr egwyl yn dilyn camgymeriad yn rhengoedd Northampton.
Ciciodd Priestland ei drydydd trosiad i sicrhau mantais o 21-9 i'r Scarlets wrth iddynt fynd mewn i'r ystafell wisgo.
Tarodd Northampton yn ôl yn ystod yr ail hanner wrth i'r eilydd George Pisi a Tom Wood sgorio cais yr un a dau drosiad ac un gic gosb gan Lamb.
Ond roedd cais a throsiad gan Priestland yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth i'r Scarlets.
Northampton: Ben Foden, Chris Ashton, Jon Clarke, James Downey, Vasily Artemyev, Ryan Lamb, Lee Dickson; Soane Tonga'uiha, Dylan Hartley [capt], Brian Mujati, Courtney Lawes, Mark Sorenson, Calum Clark, Tom Wood, Roger Wilson.
Eilyddion: Mike Haywood, Alex Waller, Paul Doran-Jones, Samu Manoa, Phil Dowson, Martin Roberts, Stephen Myler, George Pisi.
Scarlets: Liam Williams; George North, Scott Williams, Jon Davies, Sean Lamont, Rhys Priestland, Gareth Davies; Iestyn Thomas, Matthew Rees (capt), Rhys Thomas, Sione Timani, Damian Welch, Aaron Shingler, Johnathan Edwards, Ben Morgan.
Eilyddion: Ken Owens, Phil John, Rhodri Jones, Lou Reed, Matt Gilbert, Rhodri Williams, Stephen Jones, Daniel Evans.
Dyfarnwr: Mr Peter Fitzgibbon (Ireland)

Sgoriodd Lloyd Williams ail gais Y Gleision
Gleision 24 Gwyddelod yn Llundain 18
Enillodd y Gleision eu hail gêm o'r bron yn Grŵp B Cwpan Heineken er iddynt wneud gwaith caled ohoni yn erbyn tîm a chwaraeodd gyda 14 dyn am ran helaeth o'r ornest nos Wener.
Cafodd y Gleision ddechrau gwych i'r gêm gan fynd deg pwynt ar y blaen ar ôl dim ond wyth munud wedi i Dan Parks llwyddo gyda chic gosb cyn i'r bachwr Rhys Thomas sgorio cais gynta'r ornest a Parks yn llwyddo gyda'r trosiad.
Ond daeth eiliad tyngedfennol y gêm ar ôl 20 munud pan gafodd y Cymro Steve Shingler ei anfon o'r cae wedi iddo gyflawni tacl waywffon ar Dafydd Hewitt.
Er hynny ciciodd Shingler dair cic gosb mewn 13 munud i'r ymwelwyr cyn i Lloyd Williams sgorio ail gais y Gleision a llwyddodd Parks i gicio cic gosb arall.
Y sgôr ar ddiwedd yr hanner cyntaf oedd 18-9 i'r Gleision.
Ymestynodd Parks fantais y Gleision pan giciodd ei bedwaredd gic gosb ond llwyddodd Homer i gicio dwy gic gosb ei hun i dorri mantais y Gleision i un sgôr.
Er i'r Gwyddelod Irish frwydro'n galed am gais llwyddodd y Gleision i amddiffyn eu mantais tan chwiban ola'r gêm.
Gleision: Chris Czekaj; Alex Cuthbert, Casey Laulala, Dafydd Hewitt, Tom James; Dan Parks, Lloyd Williams; Gethin Jenkins, T Rhys Thomas, Taufa'ao Filise, Bradley Davies, Paul Tito (capt), Michael Paterson, Sam Warburton, Xavier Rush.
Eilyddion: Marc Breeze, John Yapp, Scott Andrews, Maama Molitika, Josh Navidi, Richie Rees, Ceri Sweeney, Gavin Evans.
Gwyddelod yn Llundain: Tom Homer; Topsy Ojo, Joe Ansbro, Steve Shingler, Adam Thompstone; Dan Bowden, Ross Samson; Clarke Dermody (capt), David Paice, Faan Rautenbach, Nick Kennedy, Matt Garvey, Declan Danaher, Richard Thorpe, Jebb Sinclair.
Eilyddion: James Buckland, Alex Corbisiero, Paulica Ion, James Sandford, Jamie Gibson, Jonathan Spratt, Adrian Jarvis, Paul Hodgson.
Dyfarnwr: Jerome Garces (France)