Amheuaeth am ddyddiad etholiadau lleol Cyngor Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Swyddfeydd Cyngor Sir Ynys MônFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Comisiynwyr sydd wedi bod yn gyfrifol am redeg Cyngor Sir Ynys Môn ers sawl mis

Cafodd BBC Cymru ar ddeall fod etholiadau Cyngor Sir Ynys Môn yn debyg o gael eu gohirio am o leiaf 12 mis oherwydd bod argymhellion ynglŷn â ffiniau etholaethau'r cyngor ar fin cael eu cyhoeddi.

Mae etholiadau i gynghorau sir Cymru yn cael eu cynnal fis Mai 2012.

Ond dydd Llun fe fydd Comisiwn Ffiniau Cymru yn cyhoeddi argymhellion drafft ynglŷn â maint y wardiau etholaeth a nifer y cynghorwyr ar yr ynys.

Mae cyhoeddi'r argymhellion yn mynd i fod yn ffactor yn y penderfyniad a ddylid cynnal etholiad neu beidio.

Tydi cynnal etholiad ddim yn digwydd heb gryn waith trefnu.

Fel arfer, ar gyfer Mai 2012, mi fyddai'r gwaith o baratoi yn cychwyn yn y mis nesaf.

Mai 2013

Mae cyhoeddiad y Comisiwn yn creu anhawster ac mae'n ymddangos na all y gwaith paratoi gychwyn ar yr ynys.

Cafodd rhaglen y Politics Show ar BBC Cymru ar ddeall gan ffynonellau cwbwl dibynadwy oddi mewn i awdurdod Ynys Môn, fod yr etholiadau yn debyg o gael eu gohirio hyd at Mai 2013.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn dan ofal chwech o gomisiynwyr a gafodd eu penodi gan y Gweinidog Llywodraeth Leol.

Gwnaeth Carl Sargeant ei benderfyniad wedi nifer o adroddiadau beirniadol o'r cyngor gan Archwiliwr Cenedlaethol Cymru.

Awgrymodd y dylai Llywodraeth Cymru ymyrryd yn y ffordd mae Cyngor Sir Ynys Môn yn cael ei reoli a hefyd y dylid ail ystyried yr adolygiad ffiniau gafodd ei gynnal yn 2010.

Cred yr archwiliwr fod angen "adfywio democratiaeth yn y cyngor o ran nifer y cynghorwyr a chael wardiau aml-aelod".

Aeth yr archwiliwr ymlaen i argymell os nad ydi'r adolygiad wedi ei gwblhau erbyn Mai 2012, y dylai'r Gweinidog ddefnyddio pwerau dan adran 87 y Ddeddf Llywodraeth Leol i ohirio cynnal yr etholiadau hyd at 2013.

Cafodd y Comisiwn Ffiniau orchymyn i gynnal adolygiad o drefniant etholaethau ar yr ynys.

Wrth i argymhellion y Comisiwn Ffiniau gael eu cyhoeddi ddydd Llun, dyma'r cam nesaf yn y dasg o gael Cyngor Sir Ynys Môn yn ôl ar ei thraed.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol