'Cymunedau Cymru ddim yn elwa o brosiectau ynni mawr'

Fferm solarFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Dydy cymunedau ddim yn elwa o brosiectau ynni mawr sy'n cael eu caniatáu gan Lywodraeth Cymru, yn ôl cynghorwyr yn y gorllewin.

Maen nhw'n dadlau bod y trydan yn cael ei allforio ac nad ydy biliau pobl yn is o ganlyniad.

Yr wythnos hon fe bleidleisiodd Cyngor Sir Caerfyrddin i atal cynlluniau ynni mawr am y tro, oni bai bod amodau cynllunio llymach yn cael eu cyflwyno.

Yn ôl y llywodraeth mae effaith cynlluniau mawr yn cael eu hystyried gan eu harolygiaeth gynllunio.

Targed y llywodraeth ydy ceisio sicrhau bod Cymru'n cynhyrchu 70% o'i thrydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030.

Yn ôl adroddiad diweddar gan Gridiau Ynni'r Dyfodol, bydd defnydd Cymru o drydan yn treblu erbyn 2050.

Ond mewn sawl ardal, yn cynnwys y gorllewin, mae prosiectau ynni mawr yn hynod o ddadleuol.

Mae cannoedd o ffermwyr a pherchnogion tir yng Nghymru wedi dechrau camau yn yr Uchel Lys yn erbyn cwmni ynni gwyrdd sy'n bwriadu codi peilonau ar draws Cymru.

Aled Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Aled Thomas bod tir amaethyddol da yn cael ei ddefnyddio ar gyfer paneli solar

Ym mhentref Johnston yn ne Sir Benfro mae gan gwmni ynni adnewyddadwy Arise gynllun i ddatblygu fferm solar newydd ar dros 300 erw o dir.

Mae'r cwmni yn dadlau - os yw'n cael caniatâd gan y llywodraeth - y bydd yn cynhyrchu 65 megawat o drydan glân - digon o ynni adnewyddadwy ar gyfer tua 34,000 o dai pob blwyddyn.

Ond mae'r cynghorydd Ceidwadol lleol, Aled Thomas, yn gwrthwynebu'r cynlluniau.

"Mae yna dir amaethyddol da yn cael ei ddefnyddio i roi'r paneli solar," meddai.

"Mae'r cwmni'n dweud bod yr egni sy'n cael ei greu yn mynd i dai lleol, ond sut mae hwn am effeithio pobl sy'n byw yma yn Johnston… ydy eu biliau nhw am fynd lawr? Nag yw."

Handel Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynghorydd Handel Davies yn cwestiynu sut mae'r datblygiadau hyn yn helpu Cymru

Yn ôl y cwmni, tua 12% o'r safle sy'n dir amaethyddol da ac fe fydd biliau yn y pen draw yn is drwy gynlluniau ynni adnewyddadwy.

Yn ddiweddar pleidleisiodd y mwyafrif o gynghorwyr Sir Gaerfyrddin o blaid rhoi saib ar holl gynlluniau ynni mawr yn y sir, oni bai bod amodau cynllunio llymach yn cael eu rhoi gan y llywodraeth yng Nghaerdydd.

Daeth hynny ar ôl i Blaid Cymru - sy'n rheoli'r cyngor - gyflwyno'r cynnig.

Roedden nhw'n galw am roi rhagor o sylw i effaith tyrbinau gwynt mawr ac edrych ar roi ceblau o dan y ddaear.

Dywedodd y cynghorydd Handel Davies o Blaid Cymru ei fod yn cefnogi ynni cynaliadwy, ond o dan yr amgylchiadau cywir.

"Does dim budd i'n cymunedau ni o gwbl gyda'r holl ddatblygiadau hyn," meddai'r aelod dros Llanymddyfri.

"Maen nhw'n allforio'r trydan felly shwt mae hwnna yn helpu Cymru?"

'Angen eu cadw rhag dinistrio cefn gwlad'

Mae ffigyrau yn dangos fod Cymru'n allforio mwy o drydan nag y mae'n defnyddio.

Cafodd fferm solar Brynrhyd ger pentref Llanedi yn ne Sir Gaerfyrddin ei datblygu yn ddiweddar.

Yn ôl Rhodri Williams sy'n byw yn lleol, mae yna safleoedd ôl-ddiwydiannol mwy addas ar gyfer datblygiadau o'r fath.

"Mae'n ymddangos i fi fel bod Llywodraeth Cymru wedi rhuthro i roi caniatâd i bobl godi ffermydd solar lle bynnag y fynnon nhw," meddai.

Dywedodd bod angen eu rhoi mewn llefydd mwy addas, yn hytrach nag ar dir amaethyddol, a'u cadw nhw rhag "dinistrio" cefn gwlad.

Gareth Clubb
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Clubb yn credu bod angen canolbwyntio ar ddefnyddio mwy o ynni adnewyddadwy

Dywedodd cyfarwyddwr elusen amgylcheddol WWF Cymru, Gareth Clubb, bod angen gwrando ar bryderon cymunedau, ond bod rhaid gweithredu ar frys gan symud i ffwrdd o danwydd ffosil.

"Y gwirionedd ydy bod angen mwy o ynni adnewyddadwy er mwyn sicrhau bod ni fel cymdeithas yn symud tuag at gymdeithas carbon isel iawn a hynny oherwydd bod y bygythiad gan newid hinsawdd mor ofnadwy i ni yma yng Nghymru a benbaladr," meddai.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae effaith gronnol cynlluniau yn cael ei ystyried gan PEDW [Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru] a gweinidogion fel rhan o'r broses o wneud penderfyniadau. Mae awdurdodau cynllunio lleol hefyd yn cael cyfle i godi pryderon fel rhan o'u hadroddiad effaith leol (LIR).

"Byddai'n amhriodol i ni wneud sylwadau ar gynigion cynllunio penodol oherwydd rôl gweinidogion Cymru yn y broses."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.