Alcohol: Galw am ganolfan i gynorthwyo pobl ifanc

  • Cyhoeddwyd
AlcoholFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na gynnydd yn nifer y bobl o dan 18 oed sydd â phroblemau difrifol oherwydd alcohol

Yn sgil mwy o gamddefnydd alcohol ymhlith rhai o dan 18 oed, mae 'na alwad am sefydlu uned arbennig yng Nghymru i roi triniaeth i blant a phobl ifanc â phroblemau difrifol yn ymwneud ag alcohol.

Yn ôl ymchwil rhaglen materion cyfoes Manylu ar BBC Radio Cymru, does dim uned arbenigol o'r fath yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae nifer o arolygon yn dangos fod yfed alcohol ymhlith pobl ifanc rhwng 11 a 15 oed wedi dyblu ers 20 mlynedd.

Felly mae mwy o blant a phobl ifanc o dan 18 oed â phroblemau difrifol oherwydd alcohol.

Ar y rhaglen mae llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Elin Jones, yn dweud ei bod hi'n bryd edrych ar sefydlu uned arbennig.

"Mae'n achos pryder i fi fod yna ddim canolfan ar gyfer pobl ifanc sydd â phroblemau dwys gydag alcohol achos ein pobl ifanc ni a'n plant ni sydd angen y gefnogaeth fwya'," meddai.

'Cefnogaeth'

"Os ydyn nhw ar drywydd o ddibyniaeth ar alcohol, yna mae angen eu cael nhw bant o'r ddibyniaeth yna yn gynnar iawn - er mwyn iddyn nhw fedru byw bywydau llawn heb alcohol.

"Felly, mae'n amlwg bod angen cefnogaeth ddwys ac arbenigol ar y pwynt yna ac fe ddylen fod 'na gefnogaeth a chanolfan ar gyfer ein pobl ifanc ni."

Er hynny, mae ambell un sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â phroblemau alcohol yn amau ai sefydlu uned arbennig yw'r ateb.

Menna Boyns yw Cyfarwyddwr Asiantaeth SUDDS (Specialist Under Eighteen Drinking and Drugs Service) - corff sy'n gweithio gyda phobl ifanc o dan 18 oed sydd â phroblemau o ganlyniad i gamddefnydd alcohol neu gyffuriau.

"Dwi ddim yn credu fod canolfan yn addas o gwbl i bobl ifanc," meddai.

Gwasanaeth penodol

"Mae pobl ifanc yn wahanol ac mae eisiau gwasanaethau gwahanol arnyn nhw.

"Allwch chi ddim dweud wrth rhywun 15 oed eu bod nhw'n mynd am detox a rehab a bod dim modd iddyn nhw yfed am weddill eu bywyd.

"Mae hynna'n ddigon anodd gydag oedolion, a 'dyw e' ddim yn gweithio o gwbl gyda phobl ifanc."

Cafodd 127 o bobl ifanc rhwng 12 ac 17 oed eu cyfeirio at SUDDS yn sir Gaerfyrddin y llynedd.

Mae pwyslais y gwasanaeth ar addysgu, helpu a hyrwyddo iechyd yr unigolion sy'n dod atyn nhw.

Bydd Manylu yn clywed gan un ferch ifanc o Lanelli am ei phrofiadau hi gydag alcohol.

Mae Nia - nid ei henw iawn - yn ferch ysgol yn y dre, ac yn dweud bod arbrofi gydag alcohol yn rhywbeth cyffredin ymhlith ei chyfoedion, ac mai dim ond ambell berson yn ei dosbarth hi yn yr ysgol, er enghraifft, sydd ddim wedi yfed alcohol.

Dechreuodd yfed pan oedd hi'n 14 oed ac roedd hi a'i ffrindiau yn cwrdd ar y strydoedd i wneud hynny.

Fel arfer, diodydd rhad, fel poteli mawr o seidr, roedd hi a'i ffrindiau yn eu hyfed, ac roedd hi'n gwario ei harian poced i gyd ar alcohol.

Mae Nia'n dweud ei bod hi wedi bod yn yfed yn drwm ac yn gyson am dros flwyddyn, ond mae'n mynnu ei bod hi'n yfed dipyn llai erbyn hyn.

Er ei bod hi'n cydnabod bod cannoedd o bobl ifanc o dan 18 oed yn arbrofi gydag alcohol, heb gael problemau tymor hir, mae'n rhybuddio na ddylai unrhyw un ddi-ystyru'r peryglon.

"Chi'n gallu marw oherwydd cymryd alcohol. Os yw pobol ifanc eisiau yfed ddylen nhw ddim mynd dros ben llestri, achos mae alcohol yn gallu newid bywyd rhywun."

Manylu am 6pm, nos Lun, Tachwedd21 ar BBC Radio Cymru.