Codi ysbyty: Y cam olaf?

  • Cyhoeddwyd
Safle'r BathhouseFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r safle wedi ei glustnodi ers pum mlynedd

Dywed Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod wedi sicrhau'r darn olaf o dir sydd ei angen ar gyfer codi ysbyty newydd yn Aberteifi.

Bu'r Bwrdd wrthi am rai blynyddoedd yn ceisio dod i gytundeb â pherchnogion tir y Bathhouse.

Roedd sôn ar un adeg am geisio gorchymyn prynu gorfodol neu chwilio am leoliad arall.

Nawr mae disgwyl i'r cytundeb ar gyfer y darn o dir dan sylw gael ei gwblhau gyda'r tirfeddiannwr yn y flwyddyn newydd.

'cyfnewid cytundebau'

Mae'r cynllun datblygu gwerth £50 miliwn hefyd yn cynnwys codi archfarchnad Sainsbury ar y safle.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Hywel Dda: "Rydym yn falch i gadarnhau ein bod wedi cyfnewid cytundebau ar gyfer safle fydd yn darparu Ysbyty a Chanolfan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn Aberteifi.

"Mae'r Bwrdd yn awyddus i fwrw 'mlaen gyda'r prosiect ac yn gobeithio cwblhau'r weithred o brynu'r tir yn gynnar yn y flwyddyn newydd "

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol