Eisteddfod Wrecsam 2011 wedi gwneud colled.

  • Cyhoeddwyd
Gorsedd y BeirddFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Gorsedd y Beirdd yn gorymdeithio drwy Wrecsam

Fe wnaeth yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yn Wrecsam eleni golled ariannol.

Dyw'r union ffigwr heb ei gadarnhau gan yr Eisteddfod, ond deellir y gallai fod yn ddegau o filoedd o bunnoedd.

Daeth y wybodaeth gan yr Eisteddfod ar wefan Twitter ddydd Iau.

Roedd y golled, meddai'r trydar, "incwm cyngherddau, stondinau a nawdd mewn cyfnod anodd wedi creu colled i'r Eisteddfod, nid costau artistiaid. Dim mwy tan dydd Sadwrn."

Bydd Cyngor yr Eisteddfod yn trafod y sefyllfa yn Aberystwyth ddydd Sadwrn.

Dywedodd llefarydd fod y ffigwr swyddogol heb gael ei gadarnhau eto.

Y llynedd fe wnaeth Eisteddfod Blaenau Gwent golled o £47,000.

Rhwng 2006 a 2009 fe wnaeth yr ŵyl flynyddol elw.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod yr Eisteddfod wedi derbyn cymhorthdal o £493,000 ar gyfer 2011-12 drwy law Bwrdd yr Iaith.

Hefyd fe roddwyd £25,000 ar gyfer cynllun oedd yn caniatáu i'r Eisteddfod gynnig 10,000 o docynnau ar bris gostyngedig.