Pryder hyfforddwr y Scarlets am 'fulturiaid'
- Cyhoeddwyd
Mae'r hyfforddwr Nigel Davies yn cyfaddef fod 'fulturiaid yn casglu' o gwmpas sêr ifanc y Scarlets yn dilyn Cwpan y Byd.
Llwyddodd George North, Jonathan Davies a Scott Williams i sgorio tri chais yr un yn eu Cwpan Byd cyntaf yn Seland Newydd.
Cafodd Rhys Priestland glod mawr am ei berfformiadau yntau fel maswr hefyd, ac mae Davies yn poeni y gallai'r criw gael eu targedu gan glybiau cyfoethog o dramor.
"Rhaid i ni sicrhau ein bod yn gofalu am ein hasedau," meddai Davies.
Mae cofnodion ariannol y clwb o Lanelli wedi datgelu dyled o £5.5 miliwn yn ddiweddar, ond mae'r Scarlets yn mynnu nad oes rhaid iddyn nhw werthu chwaraewyr er mwyn goroesi.
Eisoes mae rhai o sêr Cymru - Mike Phillips, James Hook a Lee Byrne - wedi arwyddo cytundeb gyda chlybiau yn Ffrainc, ac mae Davies yn ymwybodol fod ei sêr ifanc yn denu diddordeb.
Mae North a Williams wedi arwyddo cytundebau estynedig ym mis Mawrth, ac mae cytundeb presennol Priestland yn para tan 2014.
Mae Nigel Davies eisoes wedi dweud fod ganddo olwyr sy'n destun edmygedd mawr, ac yn deall pam fod clybiau eraill am eu dwyn.
"Mae'n rhoi pwysau mawr arnom gan ein bod yn gweithio gyda chyllideb cyfyng," meddai Davies.
"Rwy'n meddwl ein bod wedi gwneud gwaith eitha da wrth ddatblygu'r chwaraewyr yma a'r grŵp y tu ôl iddyn nhw gyda'r adnoddau sydd gennym ar hyn o bryd.
"Yn ffodus fe wnaethon ni arwyddo nifer ohonyn nhw am y ddwy neu dair blynedd nesaf ac mae hynny'n rhoi tipyn o le i ni anadlu.
"Ond does dim amheuaeth fod y fulturiaid yn casglu ac mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn gofalu am ein hasedau."
Bydd y Scarlets yn gobeithio ymestyn eu rhediad o wyth gêm heb golli wrth groesawu'r Dreigiau i Barc y Scarlets yng nghynghrair RaboDirect Pro12 nos Wener.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2011