Drama i gofio Caradog Prichard

  • Cyhoeddwyd
Caradog PrichardFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Dywed rhai mai Un Nos Ola' Leuad oedd ei wir hunangofiant

Bydd teyrnged i fardd, llenor, newyddiadurwr ac awdur un o nofelau mwya' Cymraeg hefyd yn gweld perfformiad olaf un o actorion mwya' Cymru.

Mae 'na 50 mlynedd ers i Caradog Prichard gyhoeddi Un Nos Ola' Leuad.

Fe fydd drama ddogfen newydd sy'n dwyn teitl hunangofiant y nofelydd i'w gweld am y tro cyntaf.

Y diweddar Stewart Jones, fu farw ym mis Gorffennaf, sy'n portreadu'r Caradog hŷn.

Mae Afal Drwg Adda yn rhoi darlun gonest o'i fywyd gan roi sylw i'r profiadau anodd a gafodd fel plentyn ac oedolyn.

Rhan annatod o'r bywyd cymhleth hwnnw oedd ei berthynas gyda'i fam ansefydlog a fu'n gymaint o ddylanwad ar ei waith.

Cymhlethdodau seicolegol

Fe ddechreuodd ysgrifennu'r cofiant ym 1972 ar ôl cael triniaeth am ganser y gwddw.

Bydd Llion Williams yn chwarae Caradog ifanc a Judith Humphreys sy'n portreadu'r fam gyda'i holl gymhlethdodau seicolegol.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Stewart Jones fel Caradog Prichard yn Afal Drwg Adda

Mae 'na 20 mlynedd ers i Pauline Williams cynhyrchu'r ffilm Un Nos Ola' Leuad.

Hi hefyd sydd wedi cynhyrchu'r ddrama ddogfen.

"Fe wnes i astudio Un Nos Ola' Leuad ar gyfer fy Lefel A a'i mwynhau yn fawr oherwydd ei newydd-deb a'i strwythur," meddai.

"Roedd yn nofel arloesol a'i thafodiaith yn clecian.

"Mae hi'n dal i apelio at ddarllenwyr o bob oed hyd heddiw.

"Wrth gwrs roedd rhaid tocio a chwynnu wrth fynd ati i addasu'r nofel yn ffilm ac yn anorfod roedd rhaid hepgor rhai elfennau.

"Dywed rhai mai'r nofel oedd gwir hunangofiant Caradog.

"Ymgais yw Afal Drwg Adda i fynd dan groen un o'n llenorion mwyaf enigmataidd; dyn oedd yn llawn deuoliaethau a chymhlethdodau; dyn na fedrai dorri'r llinyn bogail oedd yn ei glymu i'w fam waeth ble'r âi; dyn o gefndir y chwarel ym Methesda a ddaeth i fwynhau bywyd Bohemaidd Llundain.

"Liciwn i fod wedi ei gyfarfod."

Mae'r penwythnos o raglenni yn cychwyn nos Wener ar S4C gyda Pethe: Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad am 9.30pm.

Afal Drwg Adda, Nos Sadwrn Tachwedd 26 am 9pm; Pethe Hwyrach, nos Sul Tachwedd 27 am 7pm a chyfle i weld y ffilm Un Nos Ola' Leuad unwaith eto nos Sul Tachwedd 27 am 10.05 pm ar S4C.