Marwolaeth Gary Speed wedi syfrdanu pawb
- Cyhoeddwyd
Wrth i deyrngedau lu gael eu rhoi eto ddydd Llun i Gary Speed, mae ei deulu'n dweud fod yr holl negeseuon o gydymdeimlad a chefnogaeth wedi bod yn gysur mawr iddyn nhw yn eu trallod.
Roedd rheolwr tîm pêl-droed Cymru'n 42 oed, a chafodd ei gorff ei ddarganfod yn ei gartre yn swydd Caer fore Sul.
Mae'n gadael gwraig a dau fab.
Yn ôl ffynonellau, deellir ei fod wedi crogi ei hunan.
Dywedodd dirprwy reolwr Cymru, Raymond Verheijen: "Os oeddech chi'n ei nabod fel person mae popeth yn groes i beth ddigwyddodd ddoe."
Doedd cyn chwaraewr Cymru gyda Speed, Dean Saunders, ddim yn gallu credu'r peth.
"Fel dyn, fyddech chi ddim yn gallu credu y gallai wneud rhywbeth fel yna," meddai.
"Fe oedd yr un person y byddech chi'n dweud 'na - dim gobaith'.
"Rwy'n siŵr y daw'r gwir allan yn y pen draw. Dwi 'mond yn difaru na chefais gyfle i siarad gydag e cynt....efallai y gallwn fod wedi dweud rhywbeth."
Dywed ffrindiau a chydweithwyr Gary Speed nad ydyn nhw'n deall y digwyddiadau arweiniodd at farwolaeth rheolwr Cymru fore Sul.
'Gwbl syfrdan'
Dywedodd Verheijen fod Speed yn ymddangos "yn benderfynol" mewn cyfarfod yr wythnos diwethaf wrth edrych ymlaen at gemau rhagbrofol Cymru yng Nghwpan y Byd.
"Petaech chi wedi ei weld ddydd Mercher diwethaf yn y cyfarfod ym Mrwsel, roedd e mor ddeinamig yn ystod cyfarfod saith awr gyda'r gwledydd eraill yn brwydro am yr amserlen orau i Gymru," meddai.
Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford, ei fod yn "gwbl syfrdan", gan ychwanegu:
"Mae'r negeseuon o barch wedi bod yn anghredadwy - rhai didwyll iawn iawn. Roedd cymaint o barch at Gary ar y cae ac oddi arno.
"Roedd e'n un o'r bobl anhygoel yna oedd yn gallu cerdded i mewn i ystafell, boed honno'n llawn chwaraewyr neu gefnogwyr, a goleuo'r lle."
'Byd wrth ei draed'
Mae ffigyrau amlwg ym myd pêl-droed wedi mynegi sioc at ei farwolaeth.
Cafodd enw Craig Bellamy ei dynnu nôl o garfan Lerpwl ar gyfer eu gêm ddydd Sul yn erbyn Manchester City gan fod ei reolwr Kenny Dalglish yn credu nad oedd mewn cyflwr i chwarae.
Roedd cyn ymosodwr Cymru, John Hartson, i fod sylwebu ar gêm Abertawe yn erbyn Aston Villa yn Stadiwm Liberty, ond fe wnaeth yntau hefyd dynnu nôl.
"Mae'n galed i dderbyn," meddai Hartson.
"Mae e'n gymaint o wastraff. Nes i ddim gweld hyn yn dod o gwbl.
"Mae e mor drist a thrasig. Dyn ifanc yn ffit ac iach gyda'r byd wrth ei draed."
Gyrfa ddisglair
Fe wnaeth Speed fwynhau gyrfa hir a disglair ar y cae.
Bu'n seren gyda Leeds - lle'r enillodd bencampwriaeth yr hen adran gyntaf cyn i'r Uwchgynghrair gael ei ffurfio ym 1992 - yn ogystal â chyfnodau gydag Everton, Newcastle, Bolton a Sheffield United.
Enillodd mwy o gapiau i Gymru na'r un arall heblaw golwyr - 85 - a bu'n rheoli Bolton a Sheffield United cyn derbyn swydd rheolwr Cymru i olynu John Toshack yn Rhagfyr 2010.
Wedi dechrau anodd, roedd y tîm o dan ei reolaeth wedi ennill pedair o'u pum gêm ddiwethaf.
Y fuddugoliaeth yn erbyn Norwy o 4-1 ar Dachwedd 12 oedd ei gêm olaf - trydedd buddugoliaeth Cymru yn olynol.
Dywedodd Heddlu Sir Caer fod corff Speed wedi cael ei ganfod yn ei gartref yn Huntington ar gyrion Caer.
Doedd dim amgylchiadau amheus i'r farwolaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2011