Rhybudd y gallai cyfrifiadur Hain 'fod wedi'i hacio'

  • Cyhoeddwyd
Peter HainFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Peter Hain ddim am wneud unrhyw sylw uniongyrchol ar yr honiadau fod ei gyfrifiadur wedi'i hacio

Deellir fod llefarydd Llafur ar faterion Cymreig, Peter Hain, wedi cael rhybudd gan yr heddlu y gallai ei gyfrifiadur fod wedi cael ei hacio.

Yn ôl papur newydd y Guardian, mae'n bosib bod sawl ditectif preifat, oedd yn gweithio i News International, wedi bod yn edrych ar gyfrifiadur Mr Hain.

Dywedodd llefarydd ar ran Mr Hain ei fod yn 'fater o ddiogelwch cenedlaethol".

Roedd Mr Hain hefyd yn Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon rhwng 2005 a 2007, ac mae'n bosib bod cyfrifiaduron gweision sifil oedd yn gweithio iddo bryd hynny hefyd wedi'u hacio.

Fel rhan o'i waith fel Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, bu'n rhan o drafodaethau heddwch ac o ganlyniad byddai wedi gweld data diogelwch sensitif.

Mae o'n gwrthod gwneud unrhyw sylw ar yr honiadau hacio, ond dywedodd llefarydd: "Mae hyn yn fater o ddiogelwch cenedlaethol ac yn destun ymchwiliad gan yr heddlu felly fydda' hi ddim yn addas i wneud sylw."

Mae'r ymchwiliad yn rhan o gyrch Tuleta, sy'n edrych ar ymyrraeth breifat yn ymwneud â hacio ffonau symudol.

Mae swyddogion sy'n ymchwilio wedi bod yn rhannu gwybodaeth gyda'r Dirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol, Sue Askers, sy'n arwain yr ymchwiliad i honiadau o hacio ffonau symudol gan News of the World.

Mae'r heddlu eisoes wedi arestio nifer o bobl o ganlyniad i'r ymchwiliad.

Yn ôl News International, maen nhw'n cydweithio'n llawn gyda'r heddlu ar bob ymchwiliad, tra bod Heddlu Llundain yn dweud na fyddai'n rhoi "sylwadau cyson" ar yr ymchwiliad.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol