170,000 o weithwyr ar streic
- Cyhoeddwyd
Roedd mwy na 170,000 o weithwyr yng Nghymru ar streic fel rhan o weithredu diwydiannol ynghylch pensiynau.
Yng ngwledydd Prydain roedd dwy filiwn o weithwyr sector cyhoeddus yn streicio oherwydd newidiadau arfaethedig i'w pensiynau.
Hefyd roedd 90% o ysgolion Cymru ar gau heddiw fel rhan o weithredu diwydiannol gweithwyr y sector cyhoeddus.
Roedd 1,592 o'r 1,776 ysgolion yng Nghymru ar gau'n llwyr ac mae amharu wedi bod ar wasanaethau cyhoeddus fel casglu gwastraff, amgueddfeydd, meysydd parcio, canolfannau hamdden a llyfrgelloedd.
Ddydd Mercher roedd holl ysgolion Blaenau Gwent, Caerdydd, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, a Sir Gaerfyrddin ar gau.
Hanfodol
Yng Nghymru fe gafodd 10,500 o apwyntiadau ysbyty a 485 o lawdriniaethau eu canslo oherwydd y streic.
Ond doedd dim effaith ar driniaeth frys a hanfodol fel cemotherapi ac apwyntiadau dialysis.
Mae awdurdodau lleol wedi trefnu'n lleol ag undebau mewn rhai ardaloedd i sicrhau gwasanaethau hanfodol fel gofal cartref a gofal seibiant.
Dywedodd Cyngor Caerdydd fod holl wasanaethau Bysiau Caerdydd wedi eu canslo.
Roedd picedwyr y tu allan i'r Ganolfan Drwyddedu yn Abertawe, y Llyfrgell Genedlaethol, Ysbyty Gwynedd ym Mangor ac Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr.
Roedd 200 o streicwyr mewn rali ym Mangor, gan gynnwys staff y Cyngor Cefn Gwlad, ac yn Wrecsam roedd mwy na 200, gan gynnwys athrawon a gweithwyr iechyd, yn gorymdeithio cyn rali yn Theatr Grove Park.
Ym Merthyr roedd rhwng 150 a 200 mewn rali y tu allan i'r Ganolfan Drefol.
Cyngres Undebau Llafur Cymru drefnodd rali yng Nghaerdydd a gorymdeithiodd cannoedd o Neuadd y Ddinas i Stadiwm Swalec.
Bygythiad
Yn Aberystwyth roedd cannoedd yn gorymdeithio drwy ganol y dref a hyd at 500 yn y rali yng Nghanolfan y Morlan.
Roedd y rali oherwydd y bygythiad i bensiynau sector cyhoeddus, rhewi cyflog yn y sector cyhoeddus a thorri swyddi, gwasanaethau cyhoeddus a budd-daliadau.
Yn y cyfamser, dywedodd Undeb yr Athrawon nad mater bach oedd y penderfyniad i streicio.
Yn ôl swyddog polisi yr undeb yng Nghymru, Owen Hathway: "Rydyn ni'n rhagweld y bydd y rhan helaeth o ysgolion Cymru ar gau oherwydd streic ddydd Mercher.
"Mae hyn wedi bod yn benderfyniad anodd i bob athro, sydd wedi eu gorfodi gan y llywodraeth i streicio a cholli arian.
"Dydyn ni ddim eisiau streicio a hyd yn oed yn awr hoffen ni glywed bod y llywodraeth yn fodlon cynnal trafodaethau."
Ychwanegodd nad oedd y llywodraeth wedi bod o ddifri ynghylch y trafodaethau ac roedden nhw wedi gwrthod gwerthuso cynllun pensiynau athrawon na thrafod y bwriad i gynyddu cyfraniadau pensiwn staff na'r syniad i godi oedran ymddeol pobl.
Ailystyried
"Yn y pen draw mae'r toriadau i bensiynau mor fawr ac mor niweidiol fel y byddan nhw'n cael effaith andwyol ar wasanaethau addysg yn y dyfodol."
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi annog undebau i ailystyried eu bwriad i streicio.
Bwriad y llywodraeth yw creu cynlluniau pensiynau wedi'u seilio ar gyflogau cyfartalog gweithwyr y sector cyhoeddus dros eu gyrfaoedd.
Mae Gweinidog Addysg Llywodraeth y DU, Michael Gove, wedi honni bod eithafwyr ymysg yr undebwyr yn "ysu am frwydr".
Dywedodd ei fod yn "annheg ac yn afrealistig" i ddisgwyl i drethdalwyr dalu bil pensiwn y sector cyhoeddus.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2011