Cofio un a gollwyd mewn llongddrylliad y Royal Charter

  • Cyhoeddwyd
Charles a Hugh Williams gyda Chris HoldenFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r awdur Chris Holden wedi cwrdd â hen hen wyrion morwr fu farw

Mae arbenigwr ar longddrylliad mwyaf enwog Cymru wedi dod o hyd i ddisgynyddion un o'r morwyr fu farw yn y drychineb.

Mae Chris Holden wedi ysgrifennu llyfr am longddrylliad y Royal Charter ddigwyddodd ym 1859 oddi ar yr arfordir ym Moelfre, Ynys Môn.

Ymhlith y cannoedd fu farw ar y llong roedd Richard Williams, 34 oed, o Nefyn.

Mae Chris o Sir y Fflint wedi darganfod dau o hen-hen wyrion Richard Williams.

Mae Hugh a Charles Williams hefyd yn byw yn Sir y Fflint ac roedd Chris n falch iawn o allu esbonio mwy am y drychineb.

Dywedodd Hugh: "Mae'n drist iawn meddwl ei fod mor agos at gartref pan ddigwyddodd y llongddrylliad, wedi bod yr holl ffordd i Awstralia ac yn ôl.

"Yn ôl pob tebyg, mi fyddai wedi medru gweld traethau y byddai'n gyfarwydd â nhw ers yn fachgen ifanc o'r llong.

'Ofnadwy'

"Ni allaf ddychmygu sut byddai fy hen-hen daid wedi bod yn teimlo ond rhaid bod yr holl beth yn ofnadwy."

Nid oes llawer o wybodaeth ar gael am aelodau criw'r llong oedd ar ei ffordd i Lerpwl o Melbourne pan ddigwyddodd y drychineb.

Ond mae Charles wedi gwneud ei ymchwil ei hun sy'n awgrymu'n gryf bod Richard Williams wedi bod ar y llong.

Dywedodd Hugh: "Enw gwraig Richard oedd Elizabeth ac roedd ganddyn nhw bump o blant.

"Yng nghyfrifiad 1851 mae Elizabeth yn cael ei rhestru fel gwraig morwr a does dim sôn am Richard felly rhaid iddo fod wedi bod ar y môr.

"Erbyn cyfrifiad 1861 mae Elizabeth yn cael ei rhestru fel gwraig weddw fyddai'n cyd-fynd â'r ffaith bod Richard wedi ei ladd ar y Royal Charter."

'Anodd'

Ychwanegodd: "Mae'n rhaid ei bod wedi bod yn fywyd anodd yn gweithio ar y môr a byddai Elizabeth wedi bod adref yn aros amdano.

"Yn lle hynny cafodd ei gadael ar ei phen ei hun gyda phump o blant."

Dywedodd Chris: "Mae cwrdd â disgynyddion aelodau criw'r llong wedi bod yn wych oherwydd mae'n fy helpu i gydag ochr y stori nad ydyn ni'n gwybod llawer amdani.

"Beth ddylai cael ei gofio yw mai rhan hanfodol o'r stori oedd y dynion hyn."

Mae'r llyfr am y llongddrylliad, Life and Death on The Royal Charter, wedi ei ysgrifennu gan Chris, Lesley, ar gael o Calgo Publications.