Simon Thomas yn ymuno yn y ras i arwain Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Simon ThomasFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Simon Thomas: 'plaid sy'n cynrychioli Cymru gyfan'

Mae Simon Thomas, aelod Plaid Cymru Canolbarth a Gorllewin Cymru, wedi cyhoeddi ei fod yn sefyll am arweinyddiaeth y blaid.

Mewn araith yn Atrium Prifysgol Morgannwg, dywedodd Mr Thomas: "Ar ôl gwrando ar aelodau'r blaid yn ystod yr haf a'r hydref rwyf wedi penderfynu cyflwyno fy enw fis nesaf fel arweinydd Plaid Cymru - plaid sy'n cynrychioli Cymru gyfan.

"Rwyf wedi siarad â sawl Aelod y Cynulliad cyn gwneud y penderfyniad hwn. Fy nymuniad, fel arweinydd, yw arwain mewn ffordd gynhwysol a chyfranogol.

"Fy mwriad yw ymgynghori â'r rhai y bydd yn rhaid i mi arwain yn siambr y Senedd cyn rhoi gweledigaeth glir ar gyfer fy mhlaid a'm cenedl.

"Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i arweinydd newydd nid yn unig adnewyddu'r blaid, ond adfer Plaid Cymru fel dewis gwirioneddol o ran plaid llywodraethu i bobl Cymru.

"Mae'n rhaid iddo neu iddi chwarae ei ran i adfer ffydd mewn gwleidyddiaeth. Nid mesur tymor byr yw hwn, ond rhywbeth i ni ystyried yn ystod o leiaf dau dymor y Cynulliad".

Mawrth 15

Mae dau aelod arall o'r blaid eisoes wedi gwneud cyhoeddiad o'r fath, aelod Ceredigion, Elin Jones; ac aelod Dwyfor Meirionnydd, Dafydd Elis Thomas.

Un arall sydd wedi dweud ei bod yn ystyried sefyll yw Leanne Wood AC Canol De Cymru.

Cyhoeddodd arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, y byddai'n yn rhoi'r gorau i'r arweinyddiaeth y flwyddyn nesaf yn dilyn perfformiad gwael y blaid yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai.

Fe fydd yr enwebiadau ddim yn agor yn swyddogol tan Ionawr 3 ac fe fyddan nhw'n cau ar Ionawr 26.

Bydd yr arweinydd newydd yn cymryd yr awenau ar Fawrth 15.