Diffyg yng nghyllideb Cyngor Sir Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Cyngor Sir Ynys MônFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Comisiynwyr sy'n gyfrifiol am Gyngor Sir Ynys Môn ar hyn o bryd

Mae'r comisiynwyr sy'n gyfrifol am redeg Cyngor Sir Ynys Môn yn dweud eu bod yn ceisio mynd i'r afael gyda diffyg sylweddol yng nghyllideb yr awdurdod.

Mae'r comisiynwyr wedi mabwysiadu Datganiad ar y Gyllideb sy'n amlinellu'r gyllideb arfaethedig ar gyfer yr awdurdod yn 2012-13.

Bydd y cynigion yn cael eu trafod gan gynghorwyr mewn cyfarfod o'r cyngor ar Ragfyr 8.

Mae cyhoeddi'r datganiad yn gam cyntaf mewn proses ymgynghori fydd yn rhedeg tan fis Mawrth 2012, pan fydd y cyngor yn gosod y Gyllideb a lefel y dreth cyngor yn ffurfiol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dynodi setliad amodol o £92.3 miliwn i Ynys Môn ar gyfer 2012-13.

Mewn datganiad, dywedodd y comisiynwyr ei bod eisoes yn glir y bydd rhaid i Ynys Môn gymryd camau pendant er mwyn mynd i'r afael â bwlch arwyddocaol yn ei chyllideb.

Mae gostyngiadau cost mewnol ac arbedion effeithlonrwydd o thua £3.72 miliwn eisoes wedi eu hadnabod ar gyfer 2012-13.

Serch hynny, mae'r Comisiynwyr yn rhagweld y bydd angen i'r cyngor ystyried codi'r dreth cyngor hyd at 5%, er mwyn cyfarfod â'r gofyn statudol i osod cyllideb gytbwys.

'Cam cyntaf'

"Y Datganiad ar y Gyllideb yw'r cam cyntaf o ran y broses o gynllunio'r gyllideb," meddai Byron Davies, Comisiynydd gyda chyfrifoldeb dros gyllid.

"Mae wedi ei ddatblygu drwy ymgynghori gyda chynghorwyr, staff, undebau ac aelodau o'r gymuned ac rydym yn parhau i weithio gyda'r grwpiau hynny i derfynu'r cynigion ymhellach dros y pedwar mis nesaf.

"Mae'r hinsawdd economaidd wedi golygu gostyngiadau llym mewn gwariant cyhoeddus gan Lywodraeth Prydain, ac mae pob Cyngor yn wynebu her ariannol.

"Ond yma ar Ynys Môn, mae'r her hyd yn oed yn fwy.

"Yn y gorffennol, mae cyllidebau olynol wedi bod yn rhy isel ac mae hyn wedi golygu nad yw'r cyngor wedi buddsoddi yn y math o isadeiledd a fyddai'n ei alluogi i ddarparu gwasanaethau modern, effeithlon sy'n addas i'w pwrpas ac wedi eu cynllunio er mwyn cyfarfod â gofynion trigolion yr Ynys.

"Mae'n rhaid mynd i'r afael â'r tanfuddsoddiad yna, ac fe fydd rhaid gwneud rhai dewisiadau anodd."

Dim llwyddiant

Dywedodd fel rhan o'r gyllideb bresennol, ar gyfer 2011-12, fe lansiwyd Rhaglen Blaenoriaethau Fforddiadwy, gyda'r bwriad o arbed £11m dros dair blynedd.

"Roedd hyn yn cyd-fynd â chynnydd o 3.7% yn y Dreth Gyngor, un o'r isaf yng Nghymru," meddai.

"Er bod rhai arbedion wedi eu gwneud, nid yw'r dull yma wedi bod yn gwbl lwyddiannus.

"Wrth edrych yn ôl, roedd y targedau arbedion a osodwyd yn or-uchelgeisiol ac fe fydd angen mynd i'r afael â hyn fel rhan o'r broses o lunio cyllideb gytbwys ar gyfer 2012-13."

Bydd cyfle i'r cyhoedd i gynnig sylwadau am y datganiad cyllideb ar e-bost i ymgynghoriadcyllideb@ynysmon.gov.uk neu drwy'r post i Comisiynwyr Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni LL77 7TW erbyn Rhagfyr 23, 2011.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol