Dirwy i Gyngor Powys am dorri'r ddeddf gwarchod data

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys Cyngor PowysFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r ddirwy fwya i'r swyddfa ei chyflwyno

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi cosbi Cyngor Sir Powys am dorri'r Ddeddf Gwarchod Data.

Cafodd yr awdurdod ddirwy o £130,000 am ddatgelu manylion achos gwarchod plentyn i'r person anghywir.

Dyma'r gosb uchaf i'r ICO ei chyflwyno ers iddo gael y grym i wneud hynny ym mis Ebrill 2010, ac mae'n dilyn digwyddiad tebyg ond llai difrifol ym mis Mehefin y llynedd.

Daeth y digwyddiad diweddaraf ym mis Chwefror pan gafodd dau adroddiad am achosion gwarchod plant eu gyrru i'r un argraffydd mewn swyddfa.

Credir fod dwy dudalen o un adroddiad wedi cael eu cymysgu gyda phapurau'r adroddiad arall, ac yna cael eu postio heb eu gwirio.

Roedd y person a dderbyniodd yr adroddiad cyntaf yn adnabod y plentyn a'r rhiant oedd yn destun cwyn, ac oedd â'u manylion personol yn y ddogfen.

Fe wnaeth y person yna gwyn i'r awdurdod, a daeth cwyn arall gan fam y derbynnydd drwy ei haelod seneddol.

'Rhybudd cyfreithiol'

"Dyma'r trydydd cyngor yn y DU mewn tair wythnos i dderbyn cosb ariannol am ddatgelu gwybodaeth sensitif am bobl fregus," meddai Dirprwy Gomisiynydd Cymru, Anne Jones.

"Dyma'r achos mwyaf difrifol hyd yma, ac wedi derbyn y ddirwy fwyaf erioed.

"Mae'r trallod achoswyd i'r unigolion yn yr achos hwn yn amlwg, a'r hyn sy'n gwneud y peth yn waeth yw y gallai Cyngor Powys wedi osgoi hyn petai wedi gweithredu ar ein hargymhellion gwreiddiol.

"Mae'r ICO hefyd wedi cyflwyno rhybudd cyfreithiol yn gorchymyn y cyngor i weithredu er mwyn gwella'r modd y mae'n delio gyda data.

"Bydd methu â chydymffurfio yn arwain at gamau cyfreithiol drwy'r llysoedd."

Mae'r ICO yn pwyso ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder am rymoedd cryfach i archwilio cydymffurfiad gwarchod data awdurdodau lleol, heb ganiatâd y cyngor os oes rhaid.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol