Ymateb 'annigonol ac araf' i'r pandemig yng Nghymru - ymchwiliad Covid

Dynes mewn mwgwdFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Roedd Llywodraeth Cymru'n "rhy ddibynnol" ar arweiniad Llywodraeth y DU yn ystod dyddiau cynnar pandemig Covid-19, ac o ganlyniad roedd yr ymateb yn rhy araf ac annigonol.

Dyna farn Ymchwiliad Covid-19 y DU sy'n awgrymu petai pedair llywodraeth y DU wedi gwneud mwy yn gynt i geisio arafu lledaeniad y feirws, yna o bosib y byddai wedi bod modd osgoi y cyfnod clo mawr cyntaf yng ngwanwyn 2020.

Yn ôl yr adroddiad roedd ymateb Llywodraeth Cymru cyn ail don Covid yn ystod gaeaf 2020 hefyd yn annigonol.

Dywedodd yr adroddiad fod hyn yn debygol o fod wedi golygu mai Cymru oedd â'r gyfradd uchaf o farwolaethau o unrhyw wlad yn y DU yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae yna ganmoliaeth i arweiniad Mark Drakeford – Prif Weinidog Cymru ar y pryd - a'r ffaith fod y penderfyniadau mawr wedi cael eu gwneud ar sail consensws yn ei gabinet.

Roedd yn wrthgyferbyniad i'r diwylliant "gwenwynig ac anrhefnus" oedd yn bodoli yng nghanol Llywodraeth y DU, meddai'r ymchwiliad.

Croesawodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, yr ymchwiliad gan ddweud ei bod yn "ymrwymedig i ddysgu gwersi o'r pandemig a pharhau i gymryd rhan weithredol yn ymchwiliad y DU".

Dywedodd Plaid Cymru y byddan nhw'n cynnal ymchwiliad i graffu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig os ydyn nhw'n ennill etholiad y Senedd ym Mai 2026, tra bod y Ceidwadwyr Cymreig yn mynnu bod angen ymchwiliad annibynnol penodol i Gymru.

Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ar y cyfan mae'n ymddangos fod yna gefnogaeth i'r modd y gwnaeth Mark Drakeford a'i lywodraeth benderfyniadau

Mae'r canfyddiadau'n rhan o ail adroddiad Ymchwiliad Covid-19 y DU sy'n edrych ar benderfyniadau gwleidyddol allweddol gafodd eu gwneud gan lywodraethau ar draws y pedair gwlad yn ystod y pandemig.

Mae'r adroddiad yn seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr ymchwiliad gan dystion allweddol, gan gynnwys nifer yng Nghymru, pan gafodd yr ymchwiliad ei gynnal yng Nghaerdydd y llynedd.

Rhan allweddol o'r ymateb i Covid oedd ei fod yn cael ei reoli o dan ddeddfwriaeth iechyd cyhoeddus yn hytrach na'r Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl.

Roedd hynny'n golygu mai llywodraethau datganoledig yng Nghaerdydd, Caeredin a Belfast oedd yn gwneud y penderfyniadau - yn hytrach na gweinidogion y DU yn San Steffan.

Mae'r adroddiad yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru, ar ddechrau 2020, yn dal i gredu mai Llywodraeth y DU oedd yn gyfrifol am wneud y penderfyniadau.

Yn ôl yr ymchwiliad ni chafodd y feirws ei drafod mewn unrhyw gyfarfod o gabinet Llywodraeth Cymru tan 21 Chwefror 2020.

Ac er bod yr achos cyntaf o Covid wedi cael ei gofnodi ar 28 Chwefror, mae'r ymchwiliad yn nodi fod Mark Drakeford wedi dewis mynychu dathliad Dydd Gŵyl Dewi ym Mrwsel ar 4 Mawrth yn hytrach na chadeirio cyfarfod o'i gabinet.

Mae'r ymchwiliad hefyd yn nodi fod y llywodraeth wedi bod yn araf i ymateb i ail don y feirws yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Arwydd fforddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw mwy na 12,000 o bobl yng Nghymru o ganlyniad i Covid rhwng 2020 ac Awst 2024

Barn yr ymchwiliad oedd bod y cyfnod clo byr yn yr hydref wedi cael ei gyflwyno yn rhy hwyr, ac fe ddylai'r cyfnod clo mawr yn y gaeaf hefyd fod wedi cael ei gyflwyno'n gynt.

Wrth grynhoi'r hyn ddigwyddodd yn ystod yr ail don dywedodd yr ymchwiliad mai "cyfuniad o gyfyngiadau lleol oedd wedi methu, y cyfnod clo byr hwyr, ac ymlacio cyfyngiadau yn rhy gyflym" sy'n debygol o fod wedi arwain at y ffaith mai Cymru oedd â'r gyfradd uchaf o farwolaethau o unrhyw wlad yn y DU yn ystod y cyfnod hwnnw.

Yn fwy cyffredinol mae'n nodi fod cyflwyno cyfyngiadau a rheolau gwahanol ar draws y DU yn ystod y pandemig wedi arwain at ddryswch ymhlith y cyhoedd.

Un enghraifft o hynny medd yr adroddiad oedd y dylai'r rheol i wisgo mygydau mewn siopau fod wedi cael ei gyflwyno ar yr un pryd.

Cymru oedd yr olaf o'r pedair cenedl i gyflwyno'r rheol ac yn ôl yr ymchwiliad doedd dim modd cyfiawnhau'r oedi.

'Diffyg ymddiriedaeth'

Ond, ar y cyfan mae'n ymddangos fod yna gefnogaeth i'r modd yr oedd Mark Drakeford a'i lywodraeth wedi mynd ati i wneud penderfyniadau.

Y tu hwnt i hynny mae'r adroddiad yn dweud nad oedd yr un o wledydd y DU wedi cynllunio digon ar gyfer heriau ehangach y cyfnodau clo – gan gynnwys y niwed y cafodd ar yr economi a'r effaith negyddol ar blant o beidio â gallu mynd i'r ysgol.

Yn ôl yr ymchwiliad roedd hefyd angen ystyried yn fanylach effeithiau'r pandemig ar grwpiau oedd yn wynebu'r risg mwyaf, fel grwpiau ethnig penodol.

Mae'r adroddiad yn son am "ddifyg ymddiriedaeth" rhwng Boris Johnson - Prif Weinidog y DU ar y pryd - ac arweinwyr y llywodraethau datganoledig.

Boris JohnsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Doedd y berthynas rhwng Boris Johnson a'r llywodraethau datganoledig ddim yn hawdd, yn ôl yr adroddiad

Mae'r argymhellion yn galw am well trefniadau o fewn Llywodraeth Cymru i ddelio ag unrhyw argyfwng tebyg yn y dyfodol.

Dylai'r cenhedloedd datganoledig hefyd gael eu gwahodd fel rheol i gyfarfodyd argyfyngau Llywodraeth y DU, meddai'r adroddiad.

Mae'r ymchwiliad hefyd yn argymell "sefydlu strwythurau i wella'r cyfathrebu rhwng y pedair cenedl yn ystod argyfwng – fel bo polisïau'n cael eu cydlynu'n well lle bo' hynny'n ddymunol ac i gytuno ar 'sail resymegol' i gyfiawnhau unrhyw wahaniaethau".

'Condemniad llym'

Mewn ymateb dywedodd Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan: "Rwy'n croesawu cyhoeddi'r ail adroddiad gan Ymchwiliad Cyhoeddus Covid-19 y DU."

Dywedodd bod yn "rhaid i'n meddyliau" fod gyda'r rhai hynny gollodd anwyliaid "yn gyntaf ac yn bennaf heddiw" gan gynnwys pawb ddioddefodd.

"Byddwn yn cymryd amser i ddarllen yr adroddiad ac yn gweithio gyda llywodraethau eraill y DU dros y misoedd nesaf i ystyried ei argymhellion yn ofalus ac yn gweithredu arnyn nhw."

Dywedodd Plaid Cymru bod yr adroddiad yn "gondemniad llym o ymateb llywodraethau'r DU a Chymru a sut y methodd y ddau â chyflawni'r hyn oedd ei angen i gadw pobl yn ddiogel".

"Ni wnaeth Llafur na'r Ceidwadwyr benderfyniadau'n ddigon cyflym nac effeithiol - a thalodd pobl yng Nghymru'r pris."

Ychwanegodd, "y gwir yw na fyddwn ni byth yn deall yn llawn effaith wirioneddol y pandemig ar Gymru oherwydd gwrthododd Llafur dro ar ôl tro gynnal ymchwiliad penodol i Gymru, a rhwystro ymdrechion Plaid Cymru i sefydlu un.

"Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn 2026 yn cynnal 'ymchwiliad bwlch' pwrpasol i graffu'n llawn ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru ar y pryd - gan ddarparu'r tryloywder a'r atebolrwydd na allai'r ymchwiliad hwn eu cyflawni."

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw eto am ymchwiliad annibynnol penodol i Gymru.

Dywedodd eu llefarydd iechyd James Evans AS, "yn anffodus, arweiniodd methiannau sylweddol at y gyfradd marwolaethau uchaf yn y DU yng Nghymru, er bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi gweithredu cyfyngiadau symud llymach ac amddifadu disgyblion Cymru o fwy o ddiwrnodau ysgol nag unrhyw le arall yn y DU – rhaid dysgu gwersi."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.