Teyrnged mam i'w merch, 17, 'gofalgar, creadigol, doniol'

- Cyhoeddwyd
Mae mam wedi rhoi teyrnged i'w merch "gofalgar, creadigol, doniol" wrth i gymuned yn Sir Caerffili ddod ynghyd i'w chofio.
Bu farw Lainie Williams, 17, yr wythnos ddiwethaf yng Nghefn Fforest ger y Coed-duon.
Daeth dros 250 o bobl at ei gilydd nos Iau i ryddhau balŵns ac i gofio amdani.
Mae dyn 18 oed o Drecelyn wedi ei gyhuddo o'i llofruddiaeth.
'Roedd hi'n caru pawb'
Yn siarad nos Iau, fe wnaeth mam Lainie, Rhian Stephens, ddiolch i'r gymuned am eu cefnogaeth ers y digwyddiad.
Cafodd Ms Stephens hefyd ei hanafu yn yr ymosodiad honedig ar 13 Tachwedd.
"Dwi eisiau i fy mabi gael ei chofio", meddai, gan ddweud bod Lainie y "ferch gyda'r galon fwyaf yn y byd".
"Roedd hi'n caru ei theulu, roedd hi'n dod i roi cusan i fi bob nos a rhoi ei breichiau amdanaf.
"Roedd hi mor ofalgar, roedd hi'n caru pawb..."

Cafodd Rhian Stephens ei hanafu yn y digwyddiad hefyd
Ychwanegodd Ms Stephens ei bod yn dal i wella ers y digwyddiad, ond bod ganddi "gefnogaeth fy nheulu sydd wedi bod yn wych".
Dywedodd ewythr Lainie, Adrian Stephens, y byddai ei nith wedi mwynhau bod yr awyr yn binc adeg y digwyddiad nos Iau.
"Roedd hi'n annwyl, yn artistig, yn gall," meddai.
"Bydd pawb yn gweld ei cholli hi'n fawr. Dwi ddim yn meddwl bod geiriau i ddisgrifio a dweud y gwir."
Ychwanegodd: "Roedd hi fel enfys, a dyna'r oll alla i ddweud amdani."
Mae dros £12,000 wedi ei godi drwy wefan casglu arian i dalu costau angladd Lainie, a diolchodd Mr Stephens i "bawb ymhob un o'n cymunedau, alla i ddim diolch iddyn nhw ddigon".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
