Teulu: Cyfarfod â'r Ysgrifennydd Cartref yn 'siomedig'
- Cyhoeddwyd
Mae teulu ditectif preifat o Gymru gafodd ei lofruddio yn Llundain bron chwarter canrif yn ôl wedi dweud bod cyfarfod gyda'r Ysgrifennydd Cartref yn siomedig.
Fe gafodd Daniel Morgan ei ladd gyda bwyell y tu allan i dafarn yn Llundain yn 1987 ond ni chafodd y llofrudd ei ddal.
Mae Theresa May wedi cynnig ymchwiliad newydd gan yr heddlu ond dywedodd y teulu eu bod am ymchwiliad barnwrol.
Dywedodd brawd Daniel, Alastair Morgan: "Roedd y cyfarfod yn anfoddhaol iawn a byddwn ni'n ystyried pob opsiwn cyfreithiol."
Er bod pum ymchwiliad heddlu ar gost o filiynau o bunnoedd does neb wedi ei gael yn euog o ladd Mr Morgan.
Mae nifer o dechnegau wedi'u defnyddio wrth ymchwilio i lofruddiaeth Mr Morgan, gan gynnwys gosod offer clustfeinio mewn swyddfeydd a chartrefi pobl dan amheuaeth.
Cafodd pedwar dyn eu cyhuddo o'r llofruddiaeth yn 2008, ond ar ôl 18 mis o ddadleuon cyfreithiol cafodd yr achos ei ollwng ym mis Mawrth 2011.
Llygredd
Mae teulu Mr Morgan wedi ymgyrchu ers blynyddoedd i gael cyfiawnder, ar ôl honni bod llygredd ar ran yr heddlu wedi effeithio ar ymchwiliadau.
Mae Heddlu Llundain yn cyfadde' "bod llygredd ar ran yr heddlu wedi llesgáu" yr ymchwiliad cynta', hollbwysig, yn 1987.
Dywedodd brawd Mr Morgan, Alastair, wrth BBC Cymru: "Ymddygiad yr heddlu, o'r dechrau i'r diwedd, a'r cyfuniad o anallu a llygredd, sydd wedi arwain at fethiant yr achos."
Mae'r teulu hefyd yn chwilio am atebion ynglŷn â chysylltiadau posib rhwng y News of the World a'r ymchwiliad i'r llofruddiaeth.
Daeth i'r amlwg fod y papur yn cadw llygad ar y dyn a oedd yn arwain y pedwerydd ymchwiliad yn 2002, y Ditectif Uwch Arolygydd Dave Cook.
'Dim cyfiawnder'
Roedd cyn-weithwyr i'r papur newydd wedi bod yn gwylio Mr Cook a'i wraig, Jacqui Hames.
Bydd Ms Hames yn rhoi tystiolaeth i Ymchwiliad Leveson i hacio ffonau a'r wasg.