Gwerthu Cinmel funudau cyn ocsiwn

  • Cyhoeddwyd
Neuadd CinmelFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Roedd sôn bod nifer o gwmnïau gwesty wedi dangos diddordeb yn Neuadd Cinmel

Mae plasty ger Abergele, oedd yn cael ei alw'n Versaille Cymru gan rai, wedi ei werthu'n breifat - funudau cyn mynd o dan y morthwyl mewn ocsiwn yn Llundain.

Cafodd trefnwyr yr ocsiwn, Lambert Smith Hampton, gyfarwyddyd i dynnu Neuadd Cinmel oddi ar raglen yr ocsiwn fore dydd Mercher.

Dyluniwyd y tŷ presennol - y trydydd ar y safle - gan y pensaer W.E. Nestfield yn yr 1870au, a chafodd y gerddi Fictorianaidd gerllaw eu dylunio gan ei dad, W.A. Nestfield.

Mae'r adeilad Fictorianaidd yn cynnwys 122 o ystafelloedd, ac mae wedi bod dan berchnogaeth sawl teulu dros y blynyddoedd.

Mae'r plasty yn adeilad rhestredig Gradd I.

Dywedodd llefarydd ar ran yr arwerthwyr nad oedd modd gwneud unrhyw sylw pellach ynglŷn â'r gwerthiant ar hyn o bryd.

"Cawsom ni neges ychydig funudau'n ôl yn dweud wrthym am beidio ei gynnig yn yr ocsiwn oherwydd bod cytundebau wedi cael eu cyfnewid," meddai'r llefarydd.

Roedd sôn bod 'na ddau grŵp gwestai rhyngwladol â diddordeb yn y plasdy ym mhentre' San Siôr.

'Baich enfawr'

Yn ôl Mark Baker, hanesydd pensaernïol ac awdur sawl llyfr ar blastai Cymru:

"Dwi'n poeni a oes 'na alw am westy mawr arall, gan eu bod wrthi'n troi Castell Gwrych i mewn i westy hefyd.

"Yn ogystal, gall adeilad o'r fath edrych yn wych gyda'r arian, ond mae yna faich enfawr gydag adeilad rhestredig Gradd I.

"Mae hen adeilad ysbyty Dinbych wedi dechrau dadfeilio rŵan ar ôl cael ei brynu, a'r perchnogion ddim yn gwybod beth i wneud gyda fo.

"Bydd yn golled fawr i ogledd Cymru petawn yn colli adeilad fel Neuadd Cinmel hefyd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol