Gwynt y Môr: Symud newidydd
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni ynni wedi symud newidydd ar hyd yr A55 er mwyn bwrw ymlaen â chynllun fferm wynt Gwynt y Môr oddi ar arfordir gogledd Cymru.
Fe fydd tri newidydd yn cael eu defnyddio er mwyn trosglwyddo'r trydan a fydd yn cael ei greu gan y 160 tyrbin gwynt i'r Grid Cenedlaethol.
Roedd dau o'r newidyddion eisoes wedi cyrraedd y safle ac mae'r trydydd, a'r olaf, yn cyrraedd ddydd Sul.
Mae'r newidyddion yn cael eu gosod yn isbwerdy rwe npower renewables ar y lan yn Llanelwy ddydd Sul ar ôl cyrraedd porthladd Mostyn ym mis Hydref.
Roedd lori yn cario'r newidydd ar hyd lôn orllewinol yr A55 rhwng cyffordd 33, Y Fflint, a Pharc Busnes Llanelwy ar gyffordd 26 rhwng 7am ac 11am.
'Gwaith cymhleth'
Roedd yr heddlu yn arwain y lori ac roedd mesurau mewn grym i leihau'r effaith ar lif y traffig.
Cyn y symud fore Sul dywedodd Toby Edmonds, cyfarwyddwr prosiect Gwynt y Môr: "Mae'r gwaith cymhleth o symud y ddau newidydd eisoes ar hyd yr A55 wedi bod yn llwyddiannus dros y ddau benwythnos diwethaf.
"Roedd y confoi yn hir ac araf ond fe wnaethom gydweithio gyda'r awdurdodau lleol a'r heddlu i sicrhau mai bach iawn o effaith y byddai hyn yn ei gael ar deithwyr arferol.
"Rydym yn ymddiheuro ymlaen llaw am achosi unrhyw dagfeydd i yrwyr ddydd Sul.
"Mae'r ddau newidydd cyntaf ar y safle a dros y misoedd nesaf fe fyddwn ni'n eu cysylltu i rannau eraill o'r isbwerdy a'r fferm wynt yn y môr."
Eglurodd y bydd y newidyddion yn trosglwyddo trydan 132 kV o'r isbwerdy yn y môr, o dan y môr ac i geblau tanddaearol, i fod yn drydan 400kV sydd ei angen gan y Grid Cenedlaethol.
Cwmni o Sir Stafford, ALE, sy'n arbenigo yn y maes wnaeth symud y newidydd sy'n pwyso 271 tunnell.
400,000 o dai
Er mai dau sydd ei angen ar gyfer yr isbwerdy mae tri yn cael eu gosod er mwyn sicrhau cysondeb y pŵer rhag ofn i un fethu.
Mae'r cwmni yn gobeithio na fydd dim yn digwydd iddyn nhw gan fod hi'n cymryd dwy flynedd i adeiladu pob newidydd ac mae'n broses hir i gael rhannau newydd.
Mae Gwynt y Môr wedi ei lleoli 13 cilometr oddi ar arfordir Gogledd Cymru ac mae'r 160 tyrbin yn cynhyrchu cyfanswm o 576 MW o ynni gwynt.
Unwaith y bydd yn gwbl weithredol mae disgwyl i'r fferm wynt gynhyrchu digon o ynni yn flynyddol ar gyfer tua 400,000 o dai.
Mae disgwyl i'r isbwerdy yn y môr gychwyn gael ei adeiladu yn 2012 a'i gwblhau erbyn 2014.